Fe ddylai o leiaf bump o ddramâu John Gwilym Jones gael eu cynhyrchu’n broffesiynol yn ein cyfnod ni, meddai cyn-gynhyrchydd teledu ac Aelod Cynulliad wrth draddodi y gyntaf o ddarlithoedd blynyddol er cof am y dramodydd o’r Groeslon.
Yn ôl Alun Ffred Jones, fe ddylai cynhyrchwyr, actorion a chynulleidfaoedd heddiw gael y cyfle i ail-ddarganfod gweithiau fel Ac Eto Nid Myfi, Hanes Rhyw Gymro, Y Tad a’r Mab a Rhyfedd y’n Gwnaed (o leiaf ddwy o’r tair drama), yn yr un ffordd yn union ag y mae y byd theatr yn Lloegr yn trin clasuron Saesneg.
“Ydyn, maen nhw wedi dyddio, a’r gymdeithas y mae’n nhw’n symud ynddi hi wedi chwalu,” meddai Alun Ffred Jones wrth neuadd lawn ym Mhrifysgol Bangor neithiwr (nos Sul. Rhagfyr 2). “Ond mae theatr Lloegr yn ail-ddarganfod gwerth dramau o bob cyfnod yn rheolaidd.
“Oes gynnon ni gymaint o gywilydd o’n hanes diwylliannol fel bod ni ofn eu perfformio nhw?” meddai wedyn “Mae’r rhain yn waddol sy’n haeddu cael eu gweld a’u clywed eto.”
Ysgrifennu i ateb angen
“Dyn y ddrama oedd John i lawer – mi sgwennodd bymtheg o ddramâu,” meddai Alun Ffred Jones eto. “Ac mae’n drueni na chafodd y mwyafrif eu llwyfannu gan gast proffesiynol. Mi gyfieithodd o leia’ saith arall i’r Gymraeg, mi fu’n cynhyrchu dramau yn fan hyn [Prifysgol Bangor] a thu allan.
“Yr hyn sy’n amlwg ydi mai cwmni drama’r coleg oedd y sbardun i John Gwil ail-ddechrau sgwennu dramâu. Roedd o wedi ennill ar gyfansoddi drama hir Diofal yw Dim ac ar y nofel. Y Dewis, yn Eisteddfod Genedlaethol 1939. Mi gyfansoddodd ei ddrama nesaf, Lle Mynno’r Gwynt, yng nghanol y 1950au ar gyfer cwmni’r coleg.
“A dyna fu’r patrwm, ar wahân i gomisiynau gan yr Eisteddfod Genedlaethol a gan y BBC, lle’r oedd Emyr Humphreys bellach yn gynhyrchydd. A phan nad oedd o’n medru cyfansoddi, mi fyddai John Gwil yn cyfieithu dramâu…
“Gorchwyl oedd ysgrifennu iddo fo… profiad oedd yn rhoi pleser mawr, ar ol ei orffen. Meddai yn ei hunangofiant. ‘Y profiad a roddai’r fwyaf o bleser i mi bob amser oedd pan ysgrifennwn ‘Llen’ ar y diwedd… dyna oedd y rhyddhad’.
“Dw i’n meddwl y dylid annog cynhyrchwyr teledu y cyfnod hwn i ddarllen pennod olaf ond un hunangofiant John Gwilym Jones lle mae o’n traethu am ysgrifennu a pherfformio dramau a llefaru Cymraeg,” meddai Alun Ffred Jones. “Dw i’n credu y byddai fo’n ddychryn i rai, ac yn annealladwy i eraill.”