Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru eisiau cyflogi bardd preswyl, a hynny er mwyn dod â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol “yn fyw”
Yn ôl swyddfa’r Comisiynydd, bwriad y Ddeddf yw “cynnig cyfle hollbwysig i greu newid parhaol, cadarnhaol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol”.
Gwaith y bardd fydd ysgogi pobol i feddwl am “[f]aterion hanfodol sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru a thu hwnt? Ai’r newid yn yr hinsawdd, sgiliau’r dyfodol, goroesiad ein diwylliant a’n hiaith? Beth yw eich gobeithion a’ch dymuniadau ar gyfer eich dyfodol a dyfodol cenedlaethau’r dyfodol, beth ddylai ein hetifeddiaeth hirdymor fod?”
Yn ogystal â sgrifennu cerddi, bydd disgwyl i fardd y Comisiynydd bodledu a pherfformio yn fyw o flaen cynulleidfa ac ar gamera.
Bydd y bardd yn derbyn tâl, ond nid yw union faint y cyflog wedi ei benderfynu eto.
Cyrff cyhoeddus yn cyflogi beirdd
“Mae’r celfyddydau’n chwarae rôl hollbwysig yn ein llesiant ac yn cynnig dull gwahanol o gyfathrebu a deall y byd o’n cwmpas,” meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
“Rydyn ni eisoes yn gweld enghreifftiau o gyrff cyhoeddus eraill yn gwneud y celfyddydau’n rhan o wasanaethau cyhoeddus megis Mererid Hopwood, bardd preswyl uned gofal lliniarol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Patrick Jones, bardd preswyl Coleg Brenhinol Seiciatreg yng Nghymru.
“Rydw i wrth fy modd ein bod, ynghyd â Llenyddiaeth Cymru’n cyfrannu at ein nod llesiant ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’, ac yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y bardd yn medru ail-ddychmygu mewn geiriau ddyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”