Mae cyn-Brif Weinidog India, Atal Bihari Vajpayee wedi marw yn 93 oed ar ôl cyfnod hir o salwch.
Roedd yn cael ei gyfrif yn genedlaetholwr Hindŵaidd, ac yn 1998 fe orchmynnodd fod India yn cychwyn cynnal profion ar gyfer arfau niwclear.
Fe achosodd hyn cryn bryder ar y pryd, gyda nifer yn poeni y gallai arwain at ryfel niwclear rhwng India a Pacistan.
Ond tawelwyd y pryderon ar ôl i Lywodraeth India ffurfio cytundeb heddwch gyda’i chymydog.
O ran ei wleidyddiaeth, roedd Atal Bihari Vajpayee yn cael ei ystyried yn wleidydd cymedrol.
Mae ei gefnogwyr yn ei gofio am ei ddawn fel gwleidydd, tra bo ei wrthwynebwyr yn ei gyhuddo ef a’i blaid o greu awyrgylch o ofn tuag at leiafrif Mwslimaidd y wlad.
Roedd hefyd yn fardd a oedd yn hoff o ganu am fyd natur, ond a welodd India’n datblygu’n rym economaidd o bwys yn y byd.