Mae digrifwr wedi dechrau ar ei fwriad o ymweld â chant o sioeau comedi mewn 24 awr yng Ngwyl Caeredin, wrth geisio tynnu sylw at ymgyrch, Stand up to Cancer.
Fe gafodd Joel Dommett ei ysbrydoli wedi i’w dad goncro canser y prostad yn ddiweddar.
Mae wedi dechrau am hanner dydd heddiw, a’r bwriad yw ymweld â sioeau stand-yp a dawnsfeydd a pherfformiadau eraill ym mhrifddinas yr Alban.
“Dw i’n edrych ymlaen yn arw,” meddai Joel Dommett, “ond dw i hefyd braidd yn bryderus gan fy mod i’n gwneud hyn yn enw ‘Stand Up To Cancer’.
“Dw i’n gobeithio y bydd fy ffrindiau a’u cynulleidfaoedd bendigedig yn fy helpu ar y daith, a dw i’n croesi bysedd y bydda’ i’n gallu mynd o un sioe i’r llall ac yn gallu cyrraedd y cant o sioeau mewn pryd.
“Pwy wyr sut olwg a siâp fydd arna’ i erbyn y canfed sioe… ond fe fydda’ i’n atgoffa pawb ar y daith mai holl bwynt yr ymgyrch yw codi arian a chodi ymwybyddiaeth.”