Mae bardd ac awdur toreithiog o Abergele yn “cwestiynu” os byddai’n cystadlu mewn eisteddfodau yn y dyfodol, ar ôl cael ei “frifo’n arw iawn” gan sylwadau adolygydd.
Mae John Gruffydd Jones yn enw cyfarwydd i nifer trwy fod yn enillydd cyson yng nghystadlaethau llenyddol mewn eisteddfodau ledled Cymru.
Mae’n dal i gipio gwobrau yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, er ei fod wedi ennill y Goron, y Fedal Ryddiaith a’r Fedal Ddrama ers 30 mlynedd.
Ond mae’r cyn-wyddonydd 86 oed yn dweud iddo gael ei frifo yn dilyn adolygiad o’r gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau a oedd yn gofyn, pam ar y ddaear y mae pobol fel John Gruffydd Jones yn dal i gystadlu?
“I fod yn onest, mi ges i fy mrifo yn arw iawn, iawn, achos y cwbwl dw i’n ei wneud ydi trio cefnogi eisteddfodau,” meddai John Gruffydd Jones wrth golwg360.
“Nid er mwyn ennill, ond er mwyn cefnogi [ydw i’n cystadlu]. Mae’n beth braf iawn ennill, ond dw i wedi colli lawer mwy na dw i wedi ennill.”
Gyda hyn, mae’n dweud ei fod wedi “arafu” yn y byd cystadlu erbyn hyn, ac mai dim ond “dwywaith neu dair” mae wedi cystadlu eleni.
“Mi ges i fy mrifo gan y geiriau… maen nhw wedi gwneud i mi ella ailfeddwl am gystadlu.”
Oes o gystadlu
Mae’r bardd, sydd wedi ennill 31 o gadeiriau a phedair coron yn ystod ei oes, yn dweud bod yr elfen gystadleuol wedi cydio ynddo ers yn ifanc.
“Dw i wedi cystadlu ers pan oeddwn i yn yr ysgol,” meddai eto. “Y dylanwad mawr arna’ i oedd Gruffudd Parry, sef brawd Syr Tom Parry. Fo oedd fy athro yn Ysgol Botwnnog yn Llŷn, a fo wnaeth fy hybu i sgwennu.
“Bob tro y byddwn ni’n cael rhyw lwyddiant eisteddfodol, mi fyddai yna lythyr yn dŵad gan Gruff yn dweud ‘bydd rhaid i ti ddal ati’…”
Pwysigrwydd cystadlu
Mae’n ychwanegu wedyn ei fod wedi cefnogi eisteddfodau mawr a mân ers “dros hanner canrif”, a bod yr eisteddfodau bach yr un mor bwysig â’r Genedlaethol yn ôl ei farn ef.
“Baswn i erioed wedi cystadlu yn y Genedlaethol… wel, nes i ddim meddwl am wneud tan i mi ddechra mewn eisteddfodau bach.
“Ond dw i’n ofn bod rhai pobol yn mynd yn syth i’r Eisteddfod Genedlaethol heb gael profiad yndê, ac mae ambell feirniadaeth gas yn gallu brifo, a’ch llesteirio rhag symud ymlaen.”
Dyma glip o John Gruffydd Jones yn darllen ac yn esbonio cefndir y soned ‘Ffoaduriaid’, a ddaeth yn gydradd drydydd yn Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen ym Mhontrhydfendigaid ddechrau’r mis…