Mae’n bosib na fydd modd i’r cyhoedd ymweld â Chaeau Pontcanna “am gyfnod hir” yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Dyna yw rhybudd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, corff sy’n apelio yn erbyn y penderfyniad i osod maes carafanau’r eisteddfod yn y parc yng nghanol y brifddinas.
Yn ôl Cadeirydd y gymdeithas, Nerys Lloyd-Pierce, fe allai ceir, pebyll a charafanau “ddifetha’r caeau” os bydd glaw, ac mae’n tynnu sylw at drafferthion tebyg yn dilyn ymweliad diwethaf y brifwyl â Chaerdydd yn 2008.
“Y tro diwetha’ yr oedd yr Eisteddfod yna, doedd dim modd defnyddio’r caeau am ddwy flynedd,” meddai Nerys Lloyd-Pierce wrth golwg360.
“Dyw hynna ddim yn iawn, y ffaith na fydd y cyhoedd yn medru mynd i fan cyhoeddus agored am gyfnod hir.
“Does gennym ni ddim problem â’r Eisteddfod o gwbwl. Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad hyfryd. Ond beth fydd yn digwydd i’r man cyhoeddus agored, os fydd y tywydd yn wlyb? A does neb i weld wedi ateb hynny.”
Mae’n debyg bod disgwyl 500 o geir yn y parc, ac mae yn Nerys Lloyd-Pierce yn nodi bod y “potensial am ddifrod yn anferth”, gan ategu: “Nid pryder di-sail yw hyn.”
Newid
Fe gyhoeddodd y gymdeithas sifil lythyr agored ym mis Mawrth yn ennyn ar Gyngor Caerdydd a’r Eisteddfod Genedlaethol i newid y cynlluniau.
Ac er bod y grŵp wedi profi rhywfaint o lwyddiant yn eu hymgyrch – mae disgwyl newid i gynlluniau bws gwennol y parc – maen nhw’n parhau i alw am newid lleoliad.
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Fitzalan, yw’r safleoedd sydd wedi’u cynnig gan y gymdeithas, ac mi fyddan nhw’n cwrdd â’r Cyngor wythnos nesa’ i drafod y mater.
“Dw i’n credu y gallan nhw symud y safle gwersylla i fan arall,” meddai Nerys Lloyd-Pierce. “Byddai’n ddigon syml i wneud hynny. Os unrhyw beth, byddai’r safleoedd eraill yn haws o ran logisteg.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor Caerdydd am ymateb.