Mae Seintiau Northampton wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynnal “trafodaeth agored” â chynrychiolwyr George North ynglŷn â dod â’i gytundeb gyda’r clwb i ben erbyn taith Cymru fis nesa’.
Fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru ddoe (dydd Mercher, Mai 16) fod yr asgellwr 26 oed, ynghyd â blaenwr Caerloyw, Ross Moriarty – a fydd yn dychwelyd i glybiau Cymreig y tymor nesa’ – wedi cael eu dewis i deithio â charfan Cymru yn yr haf.
Mi fydd y daith yn digwydd cyn hir, gyda’r crysau cochion yn herio De Affrica mewn gêm brawf yn Washington DC ar Fehefin 2, a’r Ariannin yn ne’r Amerig ar Fehefin 9 a 16.
“Rydym mewn trafodaeth agored gyda chynrychiolwyr George North ynglŷn â dod â’i gytundeb gyda Seintiau Northampton i ben yn gynnar er mwyn ei alluogi i fynd ar daith gyda Chymru yr haf hwn, o ystyried ei fod yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor, beth bynnag,” meddai llefarydd ar ran y clwb.
Problemau dewis carfan
Daw’r cyhoeddiad hwn ar ôl i enwau Josh Adams, Thomas Francis a Luke Charteris gael eu tynnu o’r garfan ddoe, a hynny wedi i’r corff sy’n cynrychioli’r prif glybiau rygbi yn Lloegr, Premiership Rugby Limited, gyhoeddi nad oedd gan y tri hawl i chwarae.
Yn eu lle, mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland – a oedd yn “siomedig” â’r penderfyniad – wedi galw Rhodri Jones, Ashton Hewitt ac Aaron Wainwright i’r garfan.