Mae trefnwyr Tyrfe Tawe wedi cyhoeddi manylion 10 o gigs misol yn Nhŷ Tawe, canolfan Gymraeg Abertawe, ar gyfer 2018 – a does dim un dyn ar y rhestr.
Ond “cyd-ddigwyddiad llwyr” yw hyn, meddai Rhian Jones, un o’r trefnwyr wrth golwg360.
Ac mae un arall o’r trefnwyr, Catrin Rowlands yn dweud ei bod yn amau a fyddai unrhyw un yn cwestiynu rhestr o ddynion yn unig.
Y gigs
Caiff y nosweithiau acwstig eu naws eu cynnal nos Wener olaf bob mis, 14 o flynyddoedd ar ôl yr ŵyl Tyrfe Tawe gyntaf un yn y ddinas.
Ac yn ôl eu harfer, mae’r trefnwyr wedi mynd ati i ddod o hyd i artistiaid o bob cwr o Gymru i ddiddanu cymuned Gymraeg y ddinas.
Bydd y cyfan yn dechrau ar Ionawr 26, gyda 7 Llais: cerdd am ystyr bywyd, noson yn seiliedig ar gryno-ddisg y bardd, Karen Owen.
Y gantores o Gastell-nedd, Bronwen Lewis, a ddaeth i amlygrwydd drwy wledydd Prydain ar y rhaglen The Voice, yw’r gwestai ar Chwefror 23, ac un o fawrion y sîn gerddoriaeth Gymraeg, Heather Jones yn perfformio ar Fawrth 30.
Noson yng nghwmni’r chwedleuwraig, cantores ac actores Mair Tomos Ifans sy’n cael ei chynnig ar Ebrill 27, tra bydd DnA, deuawd y fam a’r ferch Delyth ac Angharad Jenkins o Abertawe, yn ymddangos ar Fai 25.
Un o westeion mwyaf cyson a phoblogaidd Tyrfe Tawe, Lowri Evans o Sir Benfro sy’n dychwelyd i’r ganolfan ar Fehefin 29, a’r triawd gwerin Sorela, y chwiorydd o Aberystwyth, yno ar Orffennaf 27.
Fydd dim gig yn Awst, ond bydd y cyfan yn ail-ddechrau ar Fedi 28 yng nghwmni Elin Fflur, tra bydd y gantores werin o Aberdyfi, Catrin O’Neill yn diddanu ar Hydref 26.
Y delynores Gwenan Gibbard fydd yn cloi’r flwyddyn o ddigwyddiadau ar Dachwedd 30.
Sylw i ferched
Fe fu’r sylw sy’n cael ei roi i ferched ar lwyfannau cerddoriaeth Cymru’n bwnc llosg ers sawl blwyddyn.
Cafodd Maes B eu beirniadu mor diweddar â’r llynedd yn sgil prinder merched ar eu prif lwyfan yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac roedd hynny wedi ysgogi Alun Reynolds, aelod o’r grŵp Panda Fight, i fynd ati i drefnu gig ymylol arbennig i ferched.
Ond nid her na phroblem Gymreig yn unig mo hon. Roedd gwyliau mawr Lloegr, gan gynnwys Reading a Leeds, hefyd dan y lach y llynedd am ddiffyg sylw i ferched. Ac yn sicr doedden nhw ddim i’w gweld yn brif artistiaid ar yr un o’r llwyfannau.
‘Dim bwriad’
Ar ôl cyhoeddi’r rhestr, cafodd ei chroesawu gan un o’r artistiaid, Angharad Jenkins, sy’n un hanner o fand DnA, a ddywedodd ar ei thudalen Twitter: “Gwych i weld blwyddyn o gigs Cymraeg wedi’i drefnu yn Abertawe, a merched yw’r perfformwyr i gyd! Byddwn ni ’na ar 25ain Mai – edrych mlaen @cyrfe.”
Wrth ymateb i drydariad Angharad Jenkins, ychwanegodd Rhian Jones: “Roedd hi’n hyfryd gweld Angharad Jenkins yn canmol ein hymdrechion.
“Ond roedd hi hefyd yn ychydig o syndod. Doedd dim bwriad gennym i fynd ati i drefnu gigs benywaidd yn unig, a chyd-ddigwyddiad llwyr ydi hyn.”
Ychwanegodd un arall o’r trefnwyr, Catrin Rowlands: “Mae’n beth rhyfedd, ydy, ac mae’n grêt fod hyn wedi digwydd. Doniau! Ond dw i’n amau’n gryf a fyddai unrhyw un wedi meddwl dim am y peth pe tasen ni wedi trefnu blwyddyn o gigs gyda dynion yn unig.”