Dewi Prysor enillodd wobr Barn y Bobol Golwg 360
Dywedodd Kate Crockett fod dewis ennillydd ymysg yr holl lyfrau oedd yn gymwys wedi bod yn her.

“Y peth gorau am feirniadu’r gystadleuaeth eleni oedd bod cynifer o lyfrau da o dan ystyriaeth, ac roedd dewis y deg ar gyfer y rhestr hir yn dipyn o gamp,” meddai.

“Ac rydym fel beirniaid yn arbennig o falch o’r tri llyfr ddaeth i’r brig ar y rhestr fer – gallai unrhyw un o’r tri ennill, ac mae hynny’n gyffrous dros ben.

“Wedi darllen yr holl lyfrau a oedd yn gymwys eleni, mae’n braf gallu dweud bod y byd cyhoeddi Cymraeg mewn cyflwr iach dros ben, a gallwn ymfalchïo yn safon ac amrywiaeth y llyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”

Mwy am Ned

Awdur, beirniad ac ymgyrchwr diwylliannol yw Ned Thomas. Magwyd yng Nghymru, Lloegr, yr Almaen a’r Swistir. Bu’n gweithio fel newyddiadurwr a hefyd fel darlithydd mewn prifysgolion yn Sbaen a Rwsia.

Tra’n ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth sefydlodd a bu’n olygydd ar y cylchgrawn Planet. Bu wedyn yn Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru a heddiw mae’n Lywydd Canolfan Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gwobrau Saesneg

Yr enillydd Saesneg oedd John Harrison am ei gyfrol Cloud Road.

Tyler Keevil enillodd Wobr Barn y Bobl Media Wales am ei gyfrol Fireball,  ffefryn y cyhoedd o blith y Rhestr Hir Saesneg.