Mae aelodau sector gynhyrchu annibynnol Cymru wedi mynegi eu “hanfodlonrwydd a’u pryder” ynglŷn â gweledigaeth S4C o 2012 ymlaen.
Roedd dros hanner cant o aelodau TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yn bresennol mewn cyfarfod yn Llety’r Parc, Aberystwyth, ddydd Llun.
Yno ar ran S4C oedd y Prif Weithredwr dros dro’r sianel, Arwel Ellis Owen, a’r Cyfarwyddwr Rhaglenni dros dro, Geraint Rowlands, yn ogystal â Chadeirydd newydd Awdurdod S4C, Huw Jones.
Yn ôl adroddiad yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon roedd y cyfarfod yn un “stormus”, a’r berthynas rhwng S4C a’r cynhyrchwyr wedi dirywio ymhellach.
Yn ôl TAC, roedd barn yr aelodaeth yn “unfrydol” wrth iddynt “fynegi eu siom a’u rhwystredigaeth ynglŷn â’r broses oedd wedi arwain at greu’r ‘weledigaeth newydd’”.
Nid oedd aelodau TAC yn teimlo bod “trafodaeth ystyrlon wedi digwydd” yn ystod y cyfarfod.
Roedden nhw hefyd yn teimlo bod “barn y sector gynhyrchu wedi cael ei hanwybyddu yn llwyr yn y broses”.
Wythnos yn ôl datgelodd y sianel eu cynlluniau ar gyfer 2012-15, yn sgil y toriadau mawr i gyllideb y sianel.
Cyhoeddodd S4C y bydd eu cyllideb ar gyfer gwneud rhaglenni yn cwympo i isafswm o £65m y flwyddyn yn y cyfnod hwnnw, o’i gymharu â chyllideb rhaglenni o £83m yn 2010 a £78.7m yn 2011.
Roedd eu cynlluniau at y dyfodol yn cynnwys rhagor o raglenni i blant a diflaniad Wedi 3, yn ogystal â mabwysiadu ffordd newydd o gomisiynu fydd yn cynnwys tair ‘ffenestr’ bob blwyddyn, ochr-yn-ochr â phroses gomisiynu ddi-dor yn ôl yr angen.
‘Anfodlon’
“Mae TAC yn anfodlon iawn bod S4C yn creu darlun ein bod wedi cytuno i’r weledigaeth newydd a bod llais a mewnbwn wedi digwydd i’r weledigaeth newydd gan y sector annibynnol – tydi hynny jest ddim yn wir,” meddai Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick.
“Mae aelodau TAC wedi cynnig dogfennau manwl yn amlinellu’r ffyrdd y gallwn wynebu’r argyfwng gyda’n gilydd i warchod y sianel gyda chyllideb lai ond anwybyddwyd y cynigion, a chafwyd ddim ymateb gan arweinwyr y sianel,” meddai cyn dweud hefyd bod TAC wedi “gofyn droeon am sefydlogrwydd”.
“Tydi gorfodi proses o dendro ar gwmnïau yn creu dim byd ond ansefydlogrwydd, pwysau ariannol, pwysau ar adnoddau a phwysau ar staff, a hynny i gyd mewn cyfnod lle y dylen ni fod yn ceisio arbed arian, nid ei wario yn ofer”.
Dywedodd Ron Jones, Tinopolis ei fod yn teimlo “nad yw’r maes chwarae yn un wastad bellach gan nad oes dim gwaith i’w weld wedi ei wneud ar gydraddoli’r cyllidebau na’r prisiau”.
Ymateb S4C
Dywedodd llefarydd ar ran S4C wrth gylchgrawn Golwg fod y drafodaeth yn agored a diflewyn ar dafod”.
“Mae S4C wedi ymgynghori yn helaeth ac yn drwyadl â dros 40 o gwmnïau cynhyrchu, gyda TAC a PACT ac wedi gwneud gwaith ymchwil manwl gyda’n gwylwyr er mwyn cynllunio amserlen fydd yn canolbwyntio’r gwariant ar yr adegau hynny pan mae’r rhan fwyaf o bobol yn ein gwylio, ac i gynnig rhaglenni a fydd yn denu gwylwyr newydd yn ogystal ag apelio at ein cynulleidfa draddodiadol.”