Bob O'Chwith
Gweld ei phlant yn “gwirioni” ar gymeriadau smala sydd wedi ysbrydoli llyfr cyntaf Haf Roberts i blant.
Mae’n dweud hanes Bob O’Chwith, dyn bach sy’n gwneud popeth o’i le, yn cerdded am yn ôl, yn gwisgo’i sbectol ben i waered, yn gwylio’i radio ac yn torheulo yn y glaw.
“Y syniad a ddaeth i mi i ddechrau,” meddai Haf Roberts, sy’n byw ym Mhenisarwaun yn Arfon, ond sy’n hanu’n wreiddiol o Lasfryn ger Cerrigydrudion.
“Weithiau rydach chi’n cael diwrnod bach o chwith. Dyma fi’n meddwl am ‘Bob O’Chwith’ ac y base hwnna’n gymeriad bach difyr.”
“Roeddwn i’n ymwybodol iawn bod y plant yma, yn enwedig Llio, y ferch, a oedd yn fwy am lyfrau na’r bechgyn beth bynnag, yn hoff iawn o bethau ‘quirky’ mewn straeon.
“Roedd hynny’n sicr yn ddylanwad wrth i mi ysgrifennu achos roeddwn i eisiau creu rhywbeth i ogleisio plant a gwneud iddyn nhw chwerthin. Dyna be mae plant bach fod i’w wneud – chwerthin lond eu boliau!”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 10 Mawrth