Dyfed Thomas
Mae’r actor o Rosllannerchrugog Dyfed Thomas yn actio’r tad yng nghynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol, Deffro’r Gwanwyn.
Ac ar wahân i’r fam, Ffion Dafis, criw o bobol ifanc yw gweddill y cast yn addasiad Dafydd James o’r sioe cerddoriaeth roc Spring Awakening.
Ond fel arall mae’n gweld diffyg cyfle i bobol ifanc sy’n hyfforddi i fod yn actorion.
“Yn yr hen ddyddiau, ro’n i’n un o’r ychydig a oedd wedi cael hyfforddiant. Bellach, mae yna lawer iawn o actorion, rhai ifanc talentog wedi cael hyfforddiant. Y broblem ydi, dydi’r gwaith ddim ar gael,” meddai.
“Dw i’n teimlo dros y rhain – be maen nhw’n mynd i’w wneud? Maen nhw mor frwdfrydig.”
Ond dyw pethau ddim llawer gwell i actorion hŷn, meddai. Sioe gomedi Bara Caws, Caffi Basra, yn 2007 oedd y tro diwethaf iddo berfformio ar lwyfan Cymraeg.
“Mae yna lawer iawn o actorion profiadol, hen sydd ar y domen sbwriel,” meddai. “Yn Lloegr mae yna dueddiad i bobol gael gwell rhannau wrth fynd yn hŷn. Yn cael eu gwerthfawrogi am eu bod nhw’n hŷn ac yn brofiadol. Dydi hynny erioed wedi bod yn wir yng Nghymru, sy’n od.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 10 Mawrth