Mae 30 o gyhoeddiadau newyddion lleol iawn [neu hyperlleol] wedi ymuno â phrosiect i greu mwy o newyddiadurwyr.
Cafodd y ‘Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol’ ei lansio ym mis Rhagfyr y llynedd gan y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae sawl cyhoeddiad o Gymru wedi ymuno â’r corff, fel Wrexham.com a myWelshpool.co.uk, yn ogystal â chyhoeddiadau eraill o bob cwr o wledydd Prydain.
Dyma yw’r corff cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig a’i fwriad yw cynnig dyfodol i newyddiaduraeth leol.
Beth yw ‘hyperlleol’?
Yng nghyd-destun newyddiaduraeth, hyperlleol yw’r term sy’n cael ei roi i wefannau newyddion sy’n canolbwyntio ar un ardal ddaearyddol.
Yn ôl y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, maen nhw hefyd yn diffinio ‘hyperlleol’ fel cyhoeddiad lleol sy’n annibynnol ac yn canolbwyntio ar y gymuned.
“Mae newyddiaduraeth yn wynebu ansicrwydd heb ei debyg o’r blaen,” meddai Emma Meese, rheolwr y Ganolfan yng Nghaerdydd.
“Cafodd y Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol ei sefydlu i gryfhau’r sector hwn, sy’n tyfu’n gyflym, i ddadlau a lobïo ar ran cyhoeddwyr newyddion annibynnol ledled y wlad ac i ymladd dros well cyfleoedd i ni gyd.
“Ein nod yw creu mwy o swydd ar lefel hyperleol ac i hyrwyddo newyddion annibynnol, yn seiliedig ar gymunedau, sydd o ansawdd da ac o ddiddordeb i’r cyhoedd.”