Golygfa o ffilm 'Hedd Wyn'
Mae’r bardd a’r sgriptiwr a drodd hanes Hedd Wyn yn ffilm Gymraeg a gafodd ei henwebu am Oscar, yn dweud fod cerdd y Gadair Ddu yn dal i fod yn berthnasol heddiw.
Yn ôl Alan Llwyd, er bod y gerdd ‘Yr Arwr’ yn hollol amserol ganrif union yn ôl yng nghanol y Rhyfel Mawr, mae hi’n dal i ganu clychau yn ein dyddiau ni.
“Mae ‘Yr Arwr’ yn awdl ryfedd i’w darllen i ddweud y gwir,” meddai Alan Llwyd wrth golwg360. “Mae yna gryn dipyn o ddyfnder ynddi, ond mae yna neges ynddi sydd yr un mor berthnasol ag yr oedd hi adeg y Rhyfel Mawr.
“Yr Arwr ei hun ydi’r un sy’n arwain chwyldro – yr un sy’n creu’r chwyldro – ac mae’r chwyldro hwnnw’n golygu chwyldro ym myd y celfryddydau ym myd gwareiddiad dyn.
“Ac mae’r Rhyfel Mawr yn amlwg iawn, iawn drwy gefndir yr awdl; mae’r Arwr yn gorfod dod i ymladd yn erbyn gelynion lu, a hynny er mwyn trechu yr elfen negyddol, ddinistriol honno sydd yn nynoliaeth.”
Fe anfonodd Ellis Humphrey Evans, ‘Hedd Wyn’, ei awdl i mewn i gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, pan oedd yn filwr yn ffosydd wlad Belg. O fewn ychydig wythnosau, ar Orffennaf 31, roedd wedi marw ym mrwydr Cefn Pilkem.
Ac, ar Fedi 6, 1917, pan ddaeth hi’n bryd i fardd awdl fuddugol ‘Yr Arwr’ sefyll ar ei draed yn y pafiliwn, wedi i’r Archdderwydd alw ffugenw ‘Fleur de Lys’, ni chododd neb. O ddeall fod y bardd wedi’i ladd, fe gafodd defnydd du ei daenu dros y Gadair.
Hedd Wyn yn “amlygu” colledion y Rhyfel Mawr
Roedd i’r Eisteddfod ym Mhenbedw, neu ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’ fel yr enwogwyd hi, yn ddrych i’r hyn y mae Alan Llwyd yn ei alw’n “rhyfel cyflawn” wrth ddisgrifio’r Rhyfel Mawr.
“Roedd pawb yn gynwysiedig yn y rhyfel – nid y milwyr yn unig … Roedd yn effeithio ar bawb gartre’ ac yn y blaen,” meddai.
“Yr hyn a wnaeth Hedd Wyn oedd amlygu’r golled a’r aberth a’r ffaith bod cymaint o fechgyn wedi eu lladd, doedd hyd yn oed y Prifardd buddugol ddim yn gallu bod yn yr eisteddfod oherwydd ei fod o wedi cael ei ladd.
“Amlygu’r drasiedi a wnaeth Hedd Wyn a dyna pam y daeth o i gynyrchioli’r milwyr i gyd.”
Straeon taid yn ysbyrdoli’r sgriptwr
Ar lefel fwy personol, bu’r stori am Hedd Wyn yn destun edmygedd iddo ers ei blentyndod wrth glywed straeon gan ei daid a oedd yn adnabod Hedd Wyn, neu Elis Humphrey Evans o roi ei enw cywir, yn “dda iawn”.
“Roedd yn byw yn Ffestinog ac yn eisteddfotwr ac yn gweld Ellis mewn eisteddfodau lleol, felly mi ges i stori Hedd Wyn pan oeddwn i’n fach ac fe arhosodd y stori hefo fi,” meddai Alan Llwyd.
“Ymhen blynyddoedd, fe wnaeth o daro fi’n sydyn iawn bod angen ffilm ar Hedd Wyn ac fe wnes i gysylltu â S4C i gynnig y syniad ac fe ges i arian datblygu ac yn y blaen, ac fe roddodd Euryn Ogwen Williams fi mewn cysylltiad â Paul Turner am y rheswm bod Paul Turner hefyd, yn ddiarwybod i mi, wedi sôn am wneud ffilm am Hedd Wyn!”
Wedi blwyddyn a hanner o ymchwilio a pharatoi’r sgript, roedd wedyn yn “falch iawn” o’r llwyddiant a gafodd y ffilm gyda’r balchder yn un “personol” a “chenedlaethol” iddo. Fe enwebwyd y ffilm Hedd Wyn am Oscar yn 1994.
“Y balchder mwyaf oedd bod ffilm Gymraeg, ffilm am iaith leiafrifol, wedi gwneud yn dda ar y llwyfan rhyngwladol,” meddai Alan Llwyd.