Gerald Williams, MBE, yn derbyn ei anrhydeddgan yr Arglwydd Raglaw Huw Morgan Daniel (Llun: Nigel Hughes)
Bydd nai Hedd Wyn, sydd wedi rhoi ei fywyd i gadw’r cof yn fyw am brifardd y Gadair Ddu, yn mynd i’w Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ymhen wythnos.
Wedi gwerthu’r ffermdy i Awdurdod Parc Eryri yn ddiweddar, mae gan Gerald Williams bellach fwy o amser iddo’i hun, meddai, gan nad yw’n gyfrifol dros groesawu ymwelwyr i’r Ysgwrn.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn yn nodi canrif ers i Hedd Wyn – sef Ellis Humphrey Evans, ennill y Gadair yn Eisteddfod Penbedw 1917 – ac mae’r Gadair eleni wedi’u gwneud â phren o’r Ysgwrn.
“Dw i’n gorfod mynd i’r Babell Lên bore dydd Llun i rwbath, dw i ddim yn gwybod be, efo Mererid Hopwood,” meddai Gerald Williams wrth golwg360, “a dw i’n gorfod agor rhyw arddangosfa ddydd Gwener hefyd.
“Mi fydd hi’n eisteddfod arbennig i fi achos dw i erioed wedi bod yn yr un Eisteddfod (Genedlaethol), achos pan fydd yr Eisteddfod yn y gogledd yma, byddwn ni’n cael peth ofnadwy o bobol ddiarth yn galw heibio’r Ysgwrn.
“Fethwn ni ddim mynd wedyn de, ein lle ni oedd adra’ i dderbyn y bobol de, dyna roeddwn i’n teimlo.”
Edrych ymlaen?
“Ydw a nacdw,” meddai Gerald Williams wrth gael ei holi os oedd yn edrych ymlaen at ei brifwyl gyntaf.
“Mae’n dibynnu ar y tywydd, os bydd hi’n bwrw, bydd hi’n annifyr… dw i wedi mynd i oed rŵan lle fedra’ i ddim dal llawer o dywydd ‘nde.”
Ond mae Gerald Wiliams yn hapus iawn bod pren Yr Ysgwrn yn rhan o gynllun y saer, Rhodri Owen, ar gyfer y Gadair y Genedlaethol eleni.
“Pwy bynnag gafodd y syniad, mae’n syniad da dydi… mae o’n ardderchog, mae o’n dod â rhan o’r hen le yn ôl.”
Cofio Hedd Wyn
“Yn fy meddwl i, mae Hedd Wyn yn cynrychioli hogiau Traws, hogiau Cymru i gyd ynde, dyna dw i’n edrych arno fo, ei fod o’n cynrychioli’r cwbwl… yr holl [ddynion] gafodd eu llofruddio ynde,” meddai Gerald Williams wrth golwg360.
“… Dw i wedi gwneud beth alla’ i ynde… y gorau posib… cadw’r lle [Yr Ysgwrn] yn ‘gorad, ac mae’n dal yn ‘gorad, er y Parc sydd wedi cymryd drosodd rŵan wrth gwrs.
“Maen nhw’n gwneud job reit dda chwarae teg, er mae isho cic arnyn nhw cofiwch ynde, ond at ei gilydd maen nhw’n gwneud job dda ynde.
“Mae datblygiadau mawr yn cymryd lle yno, ac mae yna newid mawr yn cymryd lle yma. Dyna’r unig beth dw i ddim yn hoffi… bod nhw wedi gwneud y cwbl efo’i gilydd.
“Tasa’n nhw wedi gwneud tipyn bach eleni a thipyn bach flwyddyn nesa’… mae fel ‘sa nhw wedi colli’r teimlad.
“… Mae yna ogla’ paent newydd, mae yna bapur newydd… gymrith o amser cyn daw o yn ei ôl yn fy meddwl i.”
Ac wrth nodi canmlwyddiant stori unigryw ei ewythr, roedd Gerald Williams am i Gymru gofio Hedd Wyn “fel maen nhw wedi gwneud” dros y blynyddoedd.
“I mi, mae eisiau ei gofio fo r’un fath heddiw ac maen nhw wedi gwneud ddoe ynde ac echdoe, drennydd a thradwy… dal i gofio’r un fath ac maen nhw wedi gwneud.”