Fe fydd Hedd Wyn yn cael ei gofio ym mherfformiad agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar Awst 4.

Bydd hi’n ganrif union ddydd Llun ers i’r bardd Ellis Humphrey Evans o Drawsfynydd gael ei ladd ym mrwydr Passchendaele yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Daeth cyhoeddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw rai diwrnodau’n ddiweddarach fod y bardd, oedd wedi defnyddio’r ffugenw ‘Fleur de Lys’, wedi ennill y Gadair.

Cafodd y newyddion am farwolaeth y bardd ei gyhoeddi o’r llwyfan gan yr Archdderwydd Dyfed, cyn i’r gadair gael ei gorchuddio mewn teyrnged iddo.

Cafodd hanes ‘Bardd y Gadair Ddu’ ei adrodd ym mhapur newydd Y Dydd ar Fedi 14, 1917.

A Oes Heddwch?

Bydd y ddrama A Oes Heddwch? ar lwyfan y Brifwyl eleni yn adrodd yr hanes.

Gwaith y brodyr Aled a Dafydd Hughes, aelodau o’r band Cowbois Rhos Botwnnog, yw hwn sy’n cynnwys perfformiad cerddorol gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chôr yr Eisteddfod.

Un o uchafbwyntiau’r cynhyrchiad fydd Gorffwysgan arbennig gan Paul Mealor, un sydd â’i wreiddiau ym Môn.

Dywedodd: “Mae hanes Hedd Wyn yn adnabyddus i unrhyw un sydd wedi’i fagu yng Nghymru, ac mae’n anrhydedd mawr i gael bod yn rhan o’r gwaith hwn sy’n ei goffau drwy gerddoriaeth.

“Bwriad yr Orffwysgan yw cyfleu teimlad o heddwch, diamser, gan adlewyrchu na all rhyfel a thywyllwch drechu ein llenyddiaeth, ein celfyddyd na’r teimladau mwyaf ffyddlon, ond yn hytrach, bydd yr hyn sy’n bwysig i ni’n cryfhau dros amser gan ddod yn harddach ac yn fwy taer.

“Roedd bywyd Hedd Wyn yn fyr, ond mae’i farddoniaeth wedi byw am ganrif a mwy.  Bwriad yr Orffwysgan yw ein helpu i gofio hynny ac i greu ennyd o orffwys wrth i ni gofio Hedd Wyn a’r holl ddynion ifanc a laddwyd yn y rhyfel erchyll.  Gadewch i’r clychau, y corganu a lleisiau’r plant gymryd drosodd a… chofiwch…”

Elfennau eraill

Bydd cerddi o eiddo Grahame Davies a Guto Dafydd yn cael eu darllen yn ystod y perfformiad, fydd mewn pum rhan.

Cyfarwyddwr artistig y noson yw Siwan Llynor, ac mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, Cyngor Ynys Môn, Cyngor Celfyddydau Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.