Y ddelwedd o ffoaduriaid... ond mae trigolion newydd Ystradgynlais eisiau cyflwyno eu diwylliant (Llun: PA)
Mae ffoaduriaid o Syria yn cynnal “digwyddiad diwylliannol” yn Ystradgynlais heddiw er mwyn cyflwyno eu hunain i’r gymuned.
Rhwng 1 a 5 o’r gloch, y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth yn lleol am eu diwylliant a’u crefydd, gan roi cyfle hefyd i’r ffoaduriaid ddod i nabod pobol y dref ac i greu cysylltiadau â’u cymuned newydd.
Mae naw mis wedi pasio ers i’r teulu cyntaf o ffoaduriaid symud i’r dref, a bellach mae chwech o deuluoedd yn byw yno.
“Llwyddiant ysgubol”
“Mae ailgartrefu’r chwe theulu Syriaidd yn Ystradgynlais wedi bod yn llwyddiant ysgubol,” meddai Simon Inkson, Pennaeth Adran Tai, Cyngor Sir Powys.
“Mae’r gymuned wedi bod yn hynod o gefnogol wrth helpu eu haelodau newydd i ymgartrefu.
“Cafodd y teuluoedd eu dadleoli o’u cartrefi yn Syria a bu’n rhaid iddyn nhw fyw ym mannau eraill cyn cyrraedd Powys, ond yn awr mae ganddyn nhw amgylchedd saff a diogel i ail adeiladu eu bywydau.”