Gwynfor Roberts (Llun o'i gyfri' Facebook)
Mae un o ecstras enwoca’ teledu Cymraeg yn nodi blwyddyn ers iddo ddiodde’ strôc fawr, trwy geisio helpu pobol eraill.
Yn ôl Gwynfor Roberts – sy’n adnabyddus am ei waith actio cefndirol yn opera sebon Pobol y Cwm am dros 30 mlynedd – mae’n hawdd diystyru symptomau strôc a meddwl amdanyn nhw fel blinder neu anhwylder arall.
Ond mae e’n dweud ei bod hi’n bwysig gweld meddyg “cyn gynted ag sy’n bosib” gan mai “amser ydi pob dim”.
“Mae’n bwysig fod pobol yn gwybod beth ydi’r arwyddion, ac yn gwybod beth i wneud, beth i edrych allan amdano. Mae’n bwysig iawn dw i’n meddwl,” meddai Gwynfor Roberts wrth golwg360.
“Gynta’ fydd, gorau fydd”
Blwyddyn yn ôl i’r wythnos hon, ar Ebrill 19, 2016, fe ddioddefodd Gwynfor Roberts ei hun strôc ddifrifol, a dywed ei fod yn ffodus iawn ei fod wedi adnabod y symptomau ac wedi ymateb mor sydyn.
“O’n i yn lwcus,” meddai. “O’n i’n lwcus bod nhw wedi sylweddoli mai strôc oedd o. O’n i’n lwcus bo fi wedi mynd i’r ysbyty mor gyflym ag oedd yn bosib. Ac mi oeddwn i’n lwcus bod nhw wedi gweld beth oedd yn bod mor gyflym.
“A dyna ydi’r neges sydd angen rhoi allan,” meddai wedyn. “Gynta’ fydd, gorau fydd. Os ydyn nhw’n medru eich cael chi i’r ysbyty yn ddigon cyflym, mae yna obaith.
“Mae yna obaith mawr eu bod nhw’n medru gwneud yn siŵr na fydd pethau’n waeth nag a fyddan nhw fel arall.”
Cefnogi elusennau
Yn ôl adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan Sefydliad Prydeinig y Galon yr wythnos hon, mae 13 o bobol yn cael strôc yng Nghymru bob dydd – ac mae angen ymchwil “ar frys” am driniaeth well.
Mae Gwynfor Roberts yn gefnogol iawn o elusen Cymdeithas Strôc, sydd yn ariannu ymchwil yn y maes, ac yn annog pobol i gyfrannu at elusennau o’r fath.
“Dydyn nhw ddim yn cael arian gan neb arall, ac maen nhw’n dibynnu ar bobol sy’n cyfrannu arian boed hi’n bunt neu deg punt, dim ots,” meddai Gwynfor Roberts. “Mi ddylian ni eu cefnogi nhw a’u helpu nhw yn eu blaen.”