Dylan Thomas
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio cystadleuaeth ysgrifennu i blant a phobol ifanc fel rhan o ddathliadau Dydd Dylan eleni.
Mae’r gystadleuaeth ar-lein ‘Dwlu ar y Geiriau’ neu ‘Love the Words’ yn agored i bobol rhwng saith a 25 oed.
Mae’n gofyn i gystadleuwyr lawrlwytho paragraffau agoriadol o destun ‘Dan y Wenallt’ neu ‘Under Milk Wood’ oddi ar wefan Llenyddiaeth Cymru a’u defnyddio fel sail i greu cerdd wreiddiol yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Fe fydd modd i gystadleuwyr drydar eu hymdrechion gan ddefnyddio’r hashnodau #DyddDylan neu #LovetheWords. Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw Mai 5.
Bydd rhai o’r ymdrechion yn cael eu dewis gan Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas, i’w cynnwys ar wefan Discover Dylan Thomas ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ar Fai 14.