O'r dde i'r chwith: Chris Rees (hyfforddwr Brett), Brett Johns, Euros Jones-Evans (cwmni Tanabi)
Fe fydd ymladdwr crefftau ymladd cymysg (MMA) o Gymru yn gwireddu breuddwyd nos Sadwrn wrth iddo ymladd ar yr un cerdyn â’i arwr Brad Pickett yn yr O2 yn Llundain.
Fe fydd 13 o ornestau’n cael eu cynnal ar y noson.
Yr uchafbwynt fydd gornest rhwng yr Americanwyr Jimi Manuwa a Corey Anderson.
Ond wrth i Brad Pickett ddirwyn ei yrfa i ben nos Sadwrn, fe allai buddugoliaeth dros y Sais Ian Entwistle roi hwb sylweddol i yrfa Brett Johns, y Cymro Cymraeg o Bontarddulais.
Yn ôl Brett Johns, bydd ei ornest yntau yn erbyn y Sais yn gyfle i “orffen y swydd oedd y bois rygbi ddim” wedi gwneud.
Ymladdwr UFC ar S4C
Bydd y rhaglen Brett Johns: Ymladdwr UFC gan gwmni Tanabi o Abertawe yn cael ei darlledu nos Fercher (9.30pm), gan roi sylw i ymdrechion Brett Johns i gyrraedd brig y gamp.
Fel yr eglura un o gynhyrchwyr y rhaglen, Euros Jones-Evans mae’n gyfnod cyffrous i’r byd MMA yng Nghymru, gyda thri o ymladdwyr – Brett Johns, Jack Marshman a John Phillips – wedi cyrraedd yr UFC.
Yn y pen draw, meddai, fe allai hynny olygu denu gornestau’r UFC i Gymru yn y dyfodol agos.