Mae William Williams Pantycelyn yn cael ei ystyried yn un o gewri llenyddiaeth Gymraeg, ond mae’n cael ei gofio fwyaf fel emynydd, ag yntau wedi ysgrifennu’n agos at fil o emynau.
Cafodd ei eni ar fferm Cefncoed ger Llanymddyfri ar Chwefror 11, 1717, cyn symud i fferm Pantycelyn ger Pentretygwyn ar ôl marw ei dad.
Roedd yn briod â Mari Francis ac fe gawsant wyth o blant, chwe merch a dau fab, gyda’r meibion yn mynd yn offeiriadon yn eu tro. Mae disgynyddion yr emynydd yn parhau i fyw ar fferm Pantycelyn hyd heddiw.
Roedd William Williams â’i fryd ar fynd yn feddyg gwlad a bu’n astudio yn Athrofa Llwyn-llwyd ger Talgarth.
Tröedigaeth
Cafodd ei fagu’n Annibynnwr ble byddai’n mynd i gapel Cefnarthen, ond pan oedd tuag ugain oed, fe glywodd un o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd, Howel Harris, yn pregethu yn Nhalgarth ac fe gafodd dröedigaeth.
Wedi hynny, ymunodd â’r Eglwys Anglicanaidd a chael ei ordeinio’n Ddiacon yn 1740, a bu hefyd yn giwrad i Theophilus Evans, awdur Drych y Prif Oesoedd.
Ond cafodd ei wrthod rhag dod yn offeiriad ac yn ôl arbenigwr ar ei waith, yr Athro Derec Llwyd Morgan, “mae’n debyg iddo fod yn esgeulus o’i braidd.”
“Roedd yn gweld fod gydag e alwedigaeth arall,” meddai Derec Llwyd Morgan gan egluro iddo ymuno â’r mudiad Methodistaidd gan ddechrau teithio ar hyd a lled Cymru i bregethu a chynnal seiadau.
Ceffyl a the
Mae’n debyg y byddai’n teithio tua thair mil o filltiroedd bob blwyddyn, dros gan mil yn ystod ei oes, ar gefn ei geffyl.
Mae straeon hefyd y byddai’n gwerthu te a phamffledi o’i emynau ar y daith er mwyn ennill ei damaid.
Mae’n cael ei gofio fel bardd rhamantaidd wrth iddo gyfleu ei grefydd mewn modd personol yn seiliedig ar brofiadau.
Fe gyhoeddodd tua 90 o lyfrau a llyfrynnau – yn gerddi hir, rhyddiaith, marwnadau ac emynau.
Ysgrifennydd ddwy gerdd hir, sef ‘Golwg ar Deyrnas Crist’ a ‘Bywyd a Marwolaeth Theomemphus’ a hefyd ‘Cerdd Newydd ar Briodas’.