Murlun o Osian Williams, prif leisydd Candelas, ar wal Galeri, Caernarfon (Llun: golwg360)
Mae cyfres o furluniau wedi eu creu er mwyn dathlu Dydd Miwsig Cymru ddydd Gwener (Chwefror 10) – ac maen nhw’n cael eu gosod mewn mannau cyhoeddus ledled y wlad.
Mae’r portreadau wedi’u creu gan yr arlunydd stryd sy’n galw’i hun yn R.mer er mwyn hybu’r diwrnod sydd yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg.
Mae’r diwrnod yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru, a’r bwriad ydi tynnu sylw at gerddoriaeth Gymraeg trwy annog busnesau, sefydliadau a thafarnau i’w chwarae. Fe fydd perfformiadau byw hefyd yn cael eu noddi fory.