M Wynn Thomas (Llun: Cyngor Llyfrau Cymru)
Mae cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru wedi dweud wrth golwg360 nad oes pryder ynghylch dyfodol y corff – bu stori ar raglen Newyddion 9 S4C neithiwr a Radio Cymru’r bore yma yn adrodd fod “pryderon” gan bobol anhysbys.
Dywedodd Yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, ei fod yn “berffaith hyderus” y bydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru at y corff yn parhau.
Ar raglen Newyddion 9, sy’n cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru ar gyfer S4C, bu ffynonellau anhysbys yn “codi pryderon” dros ddyfodol y Cyngor Llyfrau yn sgil yr aros am adolygiad gan banel annibynnol o waith y corff.
Hefyd ar Newyddion 9 roedd y cyn-Weinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones yn dweud fod gan y Cyngor Llyfrau “le i bryderu”.
Ond mae Cadeirydd y Cyngor Llyfrau yn mynnu yn bwmp ac yn blaen nad oes unrhyw le i bryderu.
“Yr ateb byr a diamwys yw, nac oes,” meddai M. Wynn Thomas wrth golwg360.
“Wrth gwrs, mae’n gyfnod o gyfyng-gyngor ariannol ar bob corff cyhoeddus y dyddiau hyn, gan gynnwys y Cyngor. Ac aros yr ydym ar hyn o bryd am gyhoeddi argymhellion y Panel a benodwyd i ystyried y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
“Ond fe fu, ac y mae, ein perthynas ni â Llywodraeth Cymru, ac â’r Gweinidog perthnasol, yn un hynod iach ac adeiladol. Ac fe r’yn ni’n berffaith hyderus y ceir cefnogaeth deilwng o’r cyfeiriad hwnnw ymlaen i’r dyfodol.”
Disgwyl adolygiad
Mae’r Cyngor Llyfrau yn gorff cenedlaethol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn ganolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Gyda chyllideb o tua £3,5 miliwn, mae’r corff yn rhoi grantiau i gyhoeddwyr llyfrau, cylchgronau a gwasanaeth ar-lein golwg360.
Roedd disgwyl i’r panel sy’n adolygu gwaith y Cyngor Llyfrau, dan arweiniad Yr Athro Medwin Hughes, is-ganghellor Prifysgol Cymru, gyhoeddi adroddiad ar y Cyngor Llyfrau erbyn mis Medi.
Ond mae’r 800 o ymatebion a gafwyd yn sgil yr ymgynghoriad wedi golygu oedi.
Mae disgwyl i banel yr adolygiad gyfarfod am y tro olaf yr wythnos nesaf.
Dywedodd un o’r “prif ffigyrau diwydiant cyhoeddi yng Nghymru” yn anhysbys wrth Newyddion 9:
“Y gobaith yw na fydd yr adolygiad yn argymell unrhyw beth rhy radical. Y ddadl oedd bod y drefn bresennol yn gweithio.”