Gareth F Williams (Llun: Llenyddiaeth Cymru)
Mae nofel olaf y diweddar Gareth F Williams am gael ei hailgyhoeddi yn dilyn galw o’r newydd amdani.
Enillodd yr awdur wobr Llyfr y Flwyddyn 2015 am Awst yn Anogia sy’n seiliedig ar erchyllterau’r Ail Ryfel Byd ar ynys Creta a’r digwyddiadau a newidiodd bentref Anogia am byth.
Cafodd ei chyhoeddi’n wreiddiol gan Wasg Gwynedd yn 2014, ond mae Gwasg y Lolfa wedi penderfynu ei hailgyhoeddi eleni.
Yn ôl Lefi Gruffudd, Pennaeth Golygyddol gwasg y Lolfa, “bu’r llyfr allan o brint ar ôl iddo ennill Llyfr y Flwyddyn, a bu galw mawr amdano ar y pryd.”
‘Un o’r nofelau gorau…’
Bu farw Gareth F Williams oedd yn wreiddiol o Borthmadog ym mis Medi 2016 yn 61 mlwydd oed yn dilyn brwydr yn erbyn canser.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau i blant a phobol ifanc gan ennill Gwobr Tir na n-Og bedair gwaith, ac roedd hefyd yn ddramodydd ac yn sgriptiwr poblogaidd.
Yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd yr awdur Gareth Miles fod Awst yn Anogia yn “un o nofelau gorau’r blynyddoedd diwethaf.”
“Ges i flas ar nifer o’i lyfrau fo, yn enwedig Awst yn Anogia… dw i’n meddwl bod y nofel honno yn un o nofelau gorau’r blynyddoedd dwytha, ac yn dangos ein bod ni ar drothwy cyfnod newydd,” meddai Gareth Miles.
Ychwanegodd Meinir Wyn Edwards, golygydd Gwasg Y Lolfa: “mae mor bwysig ein bod ni’n gwerthfawrogi ac yn annog ein hawduron a’n llenorion, cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Roedd gan Gareth gymaint mwy i’w gynnig, cymaint o syniadau wedi’u cynnau a chymaint o heyrn gwahanol yn y tân.”