Awdl o’r 19eg ganrif yw hoff gerdd y cyflwynydd, archeolegydd a’r cyn ganwr i’r band Cymraeg, Yr Anhrefn.
Esbonia Rhys Mwyn iddo ddewis ‘Mynyddoedd Eryri’ am ei fod yn edmygu bardd y gerdd, sef Gwilym Cowlyd.
“Roedd e [Gwilym Cowlyd] yn un o’r beirdd sefydlodd Arwest Glan Geirionydd ac oedden nhw’n rebels yn Nyffryn Conwy yn sefydlu be oedden nhw’n alw y Gwrth Eisteddfod.
“Roedden nhw’n gweld yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhy Saesnig,” meddai.
Am hynny, dywedodd Rhys Mwyn ei fod yn edmygu’r bardd a’i gerddi am “herio’r drefn.”