Cerdd am Gymru yw dewis yr anturwraig broffesiynol sy’n wreiddiol o Dre-gŵyr ger Abertawe.
Gall Lowri Morgan weld tebygrwydd rhwng ei phrofiad hi a’r hyn sydd yn y gerdd ‘Hon’ gan T. H. Parry-Williams, meddai.
Mae Lowri Morgan newydd gwblhau her eithriadol o redeg tri marathon ultra a dringo tri chopa uchaf Cymru mewn tridiau.
Dywedodd fod y profiad hwnnw wedi bod yn gyfle iddi “weld prydferthwch y wlad a’r hyn sydd gyda ni o’n cwmpas ni, a ges i gyfle i werthfawrogi Cymru ar ei gorau.”
Mae hefyd wedi teithio i bob cwr o’r byd gyda’i gwaith cyflwyno ac anturio gan redeg drwy jyngl yr Amazon ac ar draws yr Arctig.
“Ond rydw i, fel T. H. Parry-Williams, methu dianc o Gymru. Dyma fy nghartref i a dyma ble mae fy nghalon i.”