Mae Dr Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint, wedi derbyn gwahoddiad i fod yn un o Lywyddion Anrhydeddus Cymdeithas Waldo, yn ôl y papur bro Clebran.

Mae’n edmygydd mawr o waith y bardd Waldo Williams o Sir Benfro, ac wedi cyfieithu nifer o’i gerddi gan gynnwys ‘Mewn Dau Gae’.

Wrth dderbyn y gwahoddiad, dywedodd y byddai cyflawni’r rôl “yn fraint fawr iawn, a phleser hefyd”.

Traddododd ddarlith yn enw Cymdeithas Waldo yng Nghapel Pisga Llandysilio fis Mawrth 2012, a honno’n dwyn y teitl ‘Poetry and Peacemaking’, pan soniodd iddo ddyfynnu geiriau Waldo mewn cynhadledd yn Efrog Newydd.

Roedd o’r farn fod Waldo yn fardd ar yr un gwastad â’r Americanwr Thomas Merton a’r Sais Geoffrey Hill.

Mae yntau wrth gwrs yn fardd yn ei hawl ei hun, ac yn awdur nifer o lyfrau’n ymwneud â ffydd.

Ers hynny, mae wedi ail-loywi ei Gymraeg gan draethu yn y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron y llynedd yn rhinwedd ei ddyletswyddau.

Ar y cyd â’r Athro Laura McAllister, mae’n paratoi adroddiad am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Cerdd a chredo

Cyfrannodd erthygl i’r cylchgrawn llenyddol Y Traethodydd yn ddiweddar, sef ‘Cerdd a Chredo: Ydi llunio cerdd grefyddol yn bosib heddiw?’.

Mae’n ymuno â nifer o enwau cyfarwydd eraill fel Llywydd, sef Eirwyn George, Mererid Hopwood, Emyr Llywelyn ac Alun Ifans.

Y llywyddion eraill pan gafodd Cymdeithas Waldo ei sefydlu oedd Bobi Jones, Jâms Niclas a’r Chwaer Bosco.

Y darlithydd gwadd yn y Ddarlith Flynyddol nos Wener, Medi 29 eleni fydd y Parchedig John Gwilym Jones, a’i destun fydd ‘Plentyn y Ddaear’.

Ar Fehefin 4, caiff yr ail daith mewn cyfres o Deithiau Waldo yn ardal Tyddewi, a honno dan arweiniad Llinos Penfold.

Bydd y gyntaf yn cael ei chynnal ym Mynachlog-ddu ddydd Sul (Mai 7).