Bydd Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal yn nhref Aberdâr ar Fehefin 24, ac mae’n “gyfle pwysig i’r ardal groesawu’r Eisteddfod”, meddai’r trefnwyr.

Bydd Gorsedd Cymru’n gorymdeithio drwy’r dref, cyn cynnal eu seremoni draddodiadol, gyda’r copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn cael ei gyflwyno i’r Archdderwydd gan Helen Prosser, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

“Mae gwybod fod y Cyhoeddi ar y gorwel yn rhoi dipyn o wefr i ni yma yn Rhondda Cynon Taf,” meddai Helen Prosser.

“O’r diwedd, mae yna rywbeth go iawn i ni gydio ynddo ac edrych ymlaen ato.

“Rydyn ni wedi bod wrthi ers rhai misoedd yn paratoi’r Rhestr Testunau, gan sicrhau bod blas lleol ar y cystadlaethau cenedlaethol, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb arall yn teimlo’n gyffrous wrth weld pa gystadlaethau sydd ar gael ar eu cyfer y flwyddyn nesaf.

“Bydd cyflwyno’r gyfrol i’r Archdderwydd yn brofiad arbennig iawn, ac mae cael gwneud hynny yng nghartref yr Eisteddfod fodern gyntaf yn dipyn o fraint.”

‘Llawn traddodiad’

Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer y Cyhoeddi wedi bod yn bartneriaeth rhwng Gorsedd Cymru, yr Eisteddfod a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod yn ôl i Aberdâr ar gyfer digwyddiad y Cyhoeddi, yn ôl i gartref yr Eisteddfod fodern gyntaf erioed,” meddai’r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a’r Iaith Gymraeg ar y Cyngor.

“Mae’r Cyhoeddiad yn llawn traddodiad ac yn garreg filltir bwysig yn y cyfnod cyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

“Mae digwyddiadau fel hyn, a’r gweithgareddau cymunedol sy’n cael eu cynnal ar draws Rhondda Cynon Taf, yn creu bwrlwm go iawn yn arwain at yr ŵyl y flwyddyn nesaf.

“Byddwn yn annog ein holl drigolion i ddod draw i gymryd rhan; bydd yn ddiwrnod arbennig i bawb.”

Gwobrau’r Eisteddfod ar-lein am y tro cyntaf

Bydd y seremoni hefyd yn gyfle i lansio’r apêl am wobrau ar gyfer yr Eisteddfod, ac am y tro cyntaf mae’r gwobrau ar gael i’w harchebu ar-lein.

Y bwriad yw ei gwneud hi’n haws i unrhyw un gynnig gwobr i gefnogi’r ŵyl.

“Rydyn ni wedi cael cymaint o gefnogaeth o bob rhan o Gymru,” meddai Helen Prosser.

“Mae pobol yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r Eisteddfod yma yn y Cymoedd, ac mae gan gymaint o bobol o bob rhan o Gymru a thu hwnt gysylltiad gyda rhywun neu rywbeth yn y dalgylch.

“Rydyn ni am i bawb gael cyfle i gefnogi, ac felly rydyn ni’n lansio apêl genedlaethol heddiw ar gyfer y gwobrau.

“Dyma gyfle i bawb fod yn rhan o’r cystadlaethau a’r dathliadau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd nifer fawr o bobol am gyfrannu’n hael.

“Mae gennym ni darged ariannol uchelgeisiol, ac rydyn ni angen cefnogaeth Cymru gyfan er mwyn ein helpu ni i gyrraedd y nod.”

Ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ac arian

Mae nifer o ymgyrchoedd eisoes ar waith er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian yn lleol.

Mae ymgyrch £15 am bymtheg mis eisoes yn denu cefnogwyr, ac mae modd ymuno â’r ymgyrch hon ar-lein a chyfrannu arian yn fisol i’r gronfa leol yn y cyfnod hyd at yr ŵyl.

Ymgyrch newydd arall yw’r ymgyrch gwobrau mawr.

Am y tro cyntaf, mae’r trefnwyr yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i gyflwyno’r prif wobrau, gyda phanel yn trafod a dewis y ceisiadau llwyddiannus.

“Roedden ni’n ymwybodol bod nifer o unigolion, cyrff a sefydliadau wedi’u siomi yn y gorffennol gan eu bod wedi colli’r cyfle i gyflwyno’r Gadair, y Goron neu rai o’n medalau a gwobrau sylweddol eraill, ac rydyn ni’n credu mewn gweithredu mewn ffordd ychydig yn wahanol yma yn Rhondda Cynon Taf,” meddai Helen Prosser.

“Felly, rydyn ni’n gwahodd unrhyw un i fynegi diddordeb i gyflwyno’r gwobrau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at dderbyn nifer fawr o geisiadau am yr anrhydedd erbyn y dyddiad cau ar 18 Mai.”