Mae Amy Wadge, y gantores sy’n byw ym Mhentre’r Eglwys, wedi ymateb i fuddugoliaeth y canwr Ed Sheeran yn y llys gan ddweud ei bod hi’n “anodd hyd yn oed egluro sut mae’r bythefnos ddiwethaf wedi teimlo”.
Roedd canwr y gân ‘Thinking Out Loud’, gafodd ei chyd-ysgrifennu gan Amy Wadge, yn wynebu cyhuddiad ei fod e wedi torri hawlfraint drwy gopïo darn o’r gân ‘Let’s Get It On’ gan Marvin Gaye.
Cafodd yr achos ei gynnal yn Efrog Newydd, ychydig dros flwyddyn ar ôl iddo wynebu achos arall tros y gân ‘Shape of You’, pan gafodd Ed Sheeran ei gyhuddo o gopïo’r gân ‘Oh Why’ gan Sami Chokri.
“Dw i newydd stopio crïo,” meddai Amy Wadge ar Facebook.
“Mae’n anodd hyd yn oed egluro sut mae’r bythefnos ddiwethaf wedi teimlo ond mae mynd drwyddo fe gyda fy ffrind ers 17 mlynedd hefyd wedi bod yn un o anrhydeddau mwyaf fy mywyd.
“I gyfansoddwyr caneuon, i bobol greadigol, rydyn ni i gyd wedi ennill heddiw.
“Newidiodd y gân honno fy mywyd, ond heddiw dw i’n sylweddoli ei bod hi gymaint yn bwysicach nag y gallwn i fod wedi’i ddychmygu erioed.
“Diolch i bawb sydd wedi estyn allan, dw i nawr am drio dal i fyny ar wyth mlynedd o nosweithiau di-gwsg.
“Y gwir yw’r cyfan.”