Bydd Gŵyl Fach y Fro yn dychwelyd i Ynys y Barri ymhen pythefnos (Mai 20), gydag artistiaid fel Los Blancos, N’Famady Kouyate, Tara Bandito a Gwilym.

Yn dilyn llwyddiant yr ŵyl y llynedd, pan aeth dros 8,000 i ymuno â’r hwyl, bydd y digwyddiad yn croesawu Hanna Lili unwaith eto cyn iddi fynd yn ei blaen i gefnogi Coldplay yng Nghaerdydd ar eu taith fyd eang.

Bydd Kitsch n Synch yn perfformio gwaith comisiwn newydd ar y thema Barrybados hefyd, a chwmni dawnsio Qwerin yn dychwelyd i’r ŵyl eto.

Ynghyd â hynny, bydd gweithgareddau chwaraeon, crefftwyr, stondinau bwyd lleol a gweithgareddau i’r plant yn cael eu cynnal ar y traeth.

‘Croesawu bandiau gorau Cymru’

“Mae’n hyfryd cael gŵyl sy’n ddathliad mor arbennig o’r Gymraeg ym Mro Morgannwg a chroesawu rhai o fandiau gorau Cymru,” meddai Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Iaith Bro Morgannwg, sy’n trefnu’r ŵyl.

Ychwanegodd Michael Goode, y trefnydd ei bod yn “hyfryd gweld pob ysgol Gymraeg ym Mro Morgannwg yn cefnogi’r digwyddiad”.

“Yn ogystal, mae’n arbennig i weld y diddordeb ymhlith nifer o ysgolion ail iaith y sir,” meddai.

Dros y misoedd diwethaf, mae’r ŵyl wedi cynnal nifer o weithdai creadigol gan gynnwys graffiti gyda Hurts So Good yn Sili i greu arwyddion newydd, prosiect i greu cadeiriau lan y môr newydd gyda’r artist Haf Weighton yn Ysgol Bro Morgannwg, a sesiynau creu baneri gyda’r artist Nia Clements.