Y berthynas rhwng barddoniaeth ac iechyd a lles fydd testun Darlith Goffa Waldo heno (24 Medi).

Er bod Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo Williams wedi gorfod cael ei gohirio’r llynedd oherwydd covid, fe fydd hi’n cael ei chynnal ar-lein eleni a’r Prifardd Ceri Wyn Jones fydd yn ei thraddodi.

‘Helbul Hunan’: Waldo, Barddoniaeth ac Iechyd a Lles’ yw testun y ddarlith, gyda’r ymadrodd ‘helbul hunan’ yn dod o’r gerdd ‘Mewn Dau Gae’.

Gall barddoniaeth gynnig cysur a chynhaliaeth i bobol ar gyfnodau tywyll yn eu bywydau, meddai Ceri Wyn Jones, a bydd y ddarlith yn archwilio hynny ymhellach.

“Llesol i’r meddwl a’r enaid”

“Mae darllen barddoniaeth yn aml yn cael ei argymell fel therapi, fel rhywbeth sy’n llesol i’r meddwl a’r enaid,” meddai Ceri Wyn Jones cyn y ddarlith heno.

“Yn yr un modd, mae rhai yn ystyried bod ysgrifennu barddoniaeth yn weithred sy’n llesol i’r unigolyn, yn fodd i ganfod rhyw dawelwch mewnol.

“Ar ben hynny, dyna hefyd yw thema peth wmbredd o gerddi’r canrifoedd, sef y chwilio hwnnw am rywle mwy tangnefeddus, am y ‘llonyddwch mawr’, chwedl Waldo ei hun.”

Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn gyfnod tywyll i gymaint o bobol, meddai Ceri Wyn Jones, yn enwedig i bobol ifanc, ac mae’n bosib uniaethu â hynny yng ngwaith Waldo. 

“Mae’r consyrn am iechyd meddwl yn gyffredinol wedi dod yn beth mwy cymeradwy,” meddai.

“Mae’n dda gweld, er enghraifft, fod ‘Iechyd a Lles’ yn mynd i fod yn un o’r chwe maes dysgu a phrofiad a fydd yn ffurfio conglfeini’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

“Mae barddoniaeth yn gallu cynnig cysur a chynhaliaeth i bobol ar adegau tywyll yn eu bywydau,” meddai Ceri Wyn Jones, gan gyfeirio at gerdd Amanda Gorman yn ystod seremoni urddo Joe Biden, ac ymgyrchoedd fel Cerddi Corona wrth ddifyrru a chysuro pobol yn ystod y cyfnodau clo.

“Cynnig cysur a chynhaliaeth”

Bydd y ddarlith hefyd yn ystyried sut y gall pytiau, penillion, cwpledi neu linellau unigol mewn cerddi fod yn haws i’w cofio, a dod yn rhywbeth i’w hailadrodd – fel mantra.

“Mae cerddi Waldo ymhlith cerddi mwya’r iaith Gymraeg.

“Ond maen nhw hefyd yn llawn o linellau unigol cofiadwy, dyfynadwy – llinellau sy’n sobri a herio, ond llinellau hefyd sy’n gallu codi calon ac ysbrydoli; llinellau sy’n sicr yn cynnig cysur a chynhaliaeth,” meddai Ceri Wyn Jones gan gyfeirio at ambell linell megis ‘Daw’r wennol yn ôl i’w nyth’, ‘Daw dydd y bydd mawr y pethau bychain / Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr’, ‘Bydd cyfeillach ar ôl hyn’, a ‘Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw..”

Bydd y ddarlith ar Zoom heno am chwech.

Gellir archebu tocynnau ar gyfer yr achlysur trwy ddefnyddio’r ddolen hon:  https://tocyn.cymru/cy/event/ee9e6a79-20f5-4b27-aa00-af696f359e13