Mae llythyr yn llawysgrifen yr awdur o Gaerdydd, Roald Dahl wedi cael ei brynu mewn ocsiwn am fwy na £2,000.

Mae’r llythyr, dyddiedig Awst 2 1989, yn datgelu ei farn am ei waith ei hun a’r angen i annog plant i ddarllen llyfrau.

Roedd disgwyl iddo werthu am £500-£800 gan gwmni yn Swydd Derby.

Y llythyr

Wrth egluro cyd-destun y llythyr, dywed y llyfrgellydd Christine Wotton ei bod hi’n fyfyrwraig 20 oed pan ysgrifennodd hi at Roald Dahl, a hithau’n astudio am radd mewn llenyddiaeth a ieithyddiaeth yn niwedd y 1980au.

“Peidiwch byth â chysgodi plant rhag y byd,” meddai Roald Dahl yn ei ateb iddi.

“Dydy ‘cynnwys’ unrhyw lyfr i blant ddim yn bwysig ac eithrio ei fod yn gyfareddol i’r plentyn – ac felly yn ei ddysgu fe neu hi neu’n ei swyno i ‘hoffi’ llyfrau ac i fod yn ddarllenydd atebol – sy’n hanfodol os yw’r plentyn hwnnw am fod yn rhywbeth yn nes ymlaen mewn bywyd.”

Yn ôl yr awdur, fe fydd darllenydd bob amser yn gwneud yn well mewn bywyd na rhywun sydd ddim yn darllen.

Ac mae’n dweud mai pwrpas ei lyfrau yw “troi’r plentyn yn ddarllenwr llyfrau”.

Mae’n mynd yn ei flaen i ofyn i Christine Wotton a yw hi wedi darllen ei nofel ddiweddaraf, Matilda, oedd “fel pe bai wedi torri pob record werthiant yn hanes cyhoeddi llyfrau clawr caled”.

Ymateb yr arwerthwyr

“Dw i’n credu mai achos o Charlie and the amazing auction factory oedd hyn,” meddai Charles Hanson, perchennog Hansons Auctioneers.

“Roedd Dahl yn dalentog dros ben ac mae colled drist ar ei ôl.

“Ond mae ei ddychymyg anhygoel yn dal yn fyw diolch i’w lyfrau niferus a’r ffilmiau y gwnaethon nhw eu hysbrydoli.

“Rydyn ni wrth ein boddau ar ran ein cleient fod y llythyr hwn wedi gwneud yn dda, ond dydyn ni ddim yn synnu.

“Mae gwaith Dahl wedi dod â phleser pur i bobol ledled y byd ers degawdau.

“Mae hefyd wedi helpu plant di-ri i ddysgu darllen a gwerthfawrogi llyfrau.”