Mae Menter Iaith Abertawe yn mynd i bartneriaeth gyda Gŵyl Ymylol Abertawe (The Swansea Fringe) eleni, gyda’r bwriad o “hyrwyddo digwyddiadau Cymraeg”.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Hydref 21-24, gyda cherddoriaeth, comedi, celf a mwy yn digwydd mewn gwahanol leoliadau ar draws y ddinas.

Bu’n rhaid i’r ŵyl gael ei gohirio y llynedd yn sgil y pandemig Covid-19.

Ond eleni, mae hi’n dychwelyd yn gryfach nag erioed, gyda 200 o berfformiadau yn digwydd dros bedwar diwrnod, yn ôl y trefnwyr.

Mae tocynnau cynnar eisoes ar werth ar gyfer yr ŵyl.

‘Hyrwyddo digwyddiadau Cymraeg’

“Mae’r ŵyl wastad wedi bod yn gefnogol iawn i’r Gymraeg,” meddai Tomos Jones, Prif Swyddog Datblygu Menter Iaith Abertawe, wrth golwg360.

“Yn y gorffennol, mae lot o fandiau Cymraeg fel Los Blancos, Kim Hon a Bandicoot i gyd wedi bod yn canu yn y Gymraeg ar draws y ddinas.

“Bwriad y bartneriaeth wedyn, mewn ffordd, yw ffurfioli’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn barod a thynnu sylw at elfen Gymraeg gref yr ŵyl a dathlu’r elfen yna.

“Felly rydyn ni’n mynd i fod yn trefnu cwpwl o lwyfannau gwahanol yn Neuadd Tŷ Tawe… mae gennym ni noson gomedi Gymraeg a llwyfan cerddoriaeth Gymraeg.

“Byddwn ni wedyn yn helpu’r ŵyl i hyrwyddo’r digwyddiadau Cymraeg sy’n digwydd ar draws y ddinas.

“Eto, mae’n ymwneud â dathlu’r holl bethau Cymraeg sy’n digwydd yn yr ŵyl.

“Un o’r pethau hynny o ran yr ŵyl yw efallai y byddai e’n braf denu pobol newydd mewn hefyd… pobol sydd ddim yn ymwybodol o’r llwyth o gerddoriaeth sy’n cael ei chynhyrchu yn y Gymraeg.

“Efallai bydd pobol, o ganlyniad i beth mae’r ŵyl yn ei wneud, yn gweld llwyfannau gwahanol gydag elfennau Cymraeg iddyn nhw.

“Dw i’n credu bod gan fwy neu lai pob llwyfan o leiaf un act sydd sy’n canu neu berfformio yn y Gymraeg eleni.”

‘Naws cymunedol’

Mae Tomos Jones yn dweud fod yna “naws cymunedol” yn perthyn i’r ŵyl.

“Bydd yna noson lansio yn digwydd ar nos Iau’r ŵyl, sy’n digwydd yn Neuadd Brangwyn.

“Bydd cerddoriaeth yno, ond hefyd stondinau busnesau a sefydliadau lleol er mwyn iddyn nhw gael hysbysebu a gwerthu wedyn.

“Felly mae yna naws cymunedol neis iddo fe, gyda sefydliadau gwahanol ar draws Abertawe yn dod at ei gilydd.”

Y trefniadau

Sut mae’r trefniadau yn dod yn eu blaen, felly?

“Rydyn ni wrthi yn trefnu’r line-ups a’r pethau yna i gyd ar hyn o bryd,” eglura Tomos Jones.

“Mae sawl peth wedi cael ei gyhoeddi yn barod trwy’r cyfryngau cymdeithasol.

“Mae labeli recordiau gwahanol, er enghraifft, yn trefnu llwyfannau gwahanol felly mae cwpwl o rhain wedi cael eu cyhoeddi.

“Ac wedyn, mae tocynnau cynnar ar werth nawr felly mae’r rheini ar gael.”

Ac mae Tomos Jones yn disgwyl y bydd tocynnau yn gwerthu’n gyflym eleni.

“Dw i’n credu’r awydd yna i gael mynd yn ôl i ddigwyddiadau fel hyn,” meddai.

“Ti’n meddwl am rywbeth fel Tafwyl yng Nghaerdydd cwpwl o wythnosau yn ôl, roedd yna lot fawr o bobol yn ceisio cael tocynnau ac eisiau mynd yn ôl i weld digwyddiad byw.

“Dw i’n credu y bydd yr un peth yn wir fan hyn.”