Mae nifer fawr o gynnwys teledu, radio, ffilm a chyfryngau digidol Cymreig wedi cael ei enwebu yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni.

Mae’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn ddigwyddiad 3 diwrnod blynyddol sy’n hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau’r Gwledydd a’r Rhanbarthau Celtaidd yn y cyfryngau.

Eleni, bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 7-9 Medi.

Ers 40 mlynedd, mae’n cyfuno cynhadledd o seminarau a dosbarthiadau meistr gyda chyflwyniad o wobrau mewn cystadleuaeth rhyngwladol ar draws y maes teledu, radio, ffilm a chyfryngau digidol.

Mae’r Ŵyl yn cael ei chefnogi gan sefydliadau darlledu, ffilm, diwylliannol a datblygu economaidd ledled y gwledydd a’r rhanbarthau Celtaidd.

Enwebiadau Cymreig yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd

Mae’r enwebiadau Cymreig ar gyfer yr Ŵyl yn cynnwys:

Gorsaf Radio – Radio Cymru.

Cyflwynydd Radio – Ifan Evans.

Chwaraeon Radio – Byd Rygbi Cat a Charlo (gyda Catrin Heledd a Gareth Charles ar Radio Cymru); Scrum V – The Llandow air distaster (Radio Wales).

Cerddoriaeth Radio – Y Gerddorfa: Dathlu Sain yn 50 (Radio Cymru).

Cylchgrawn Radio – Bore Cothi; Dewi Llwyd ar Fore Sul (Radio Cymru).

Drama Radio: Carafanio (Radio Cymru).

Comedi Radio: Tudur Owen, Zoo (Radio 4); Mo Omar: Becoming Welsh (Radio Wales).

Dogfen Radio: Kizzy Crawford: Autism and Me (Radio Wales); Rhys Ifans (Radio Cymru); Sir Tom’s Musical Years (Radio Wales, Radio 2 gan Telesgop).

Dogfen Chwaraeon: Copa – Her Huw Jack Brassington (S4C gan Cwmni Da); Geraint Thomas: The Road Will Decide (BBC Cymru).

Dogfen Unigol: Critical: Coronavirus in Intensive Care (BBC Cymru); Eirlys, Dementia a Tim (S4C gan Cwmni Da).

Ffurf Fer: Dilynwyr (Hansh S4C).

Drama Fer: Cyswllt (S4C).

Rhaglen Gerddoriaeth Fyw: Sioe yr Eisteddfod Goll (S4C).

Hanes: Britannia: Tân ar y Bont (S4C gan Rondo).

Adloniant Ffeithiol: Rhod Gilbert’s Work Experience (BBC Cymru); Iaith ar Daith (S4C gan Boom Cymru).

Dogfen Nodwedd: Rockfield: The Studio On The Farm (BBC Cymru).

Cyfres Ffeithiol: A Special School (BBC Cymru).

Adloniant: Côr Digidol Rhys Meirion (S4C gan Cwmni Da).

Cyfres Ddrama: 35 Diwrnod (S4C gan Boom Cymru).

Materion Cyfoes: BBC Wales Investigates: The Clydach Murders: Beyond Reasonable Doubt (BBC Cymru); Pawb a’i Farn: Black Lives Matter (S4C gan Tinopolis).

Comedi: Rybish (S4C gan Cwmni Da).

Rhaglen i Blant: Nadolig Deian a Loli (S4C gan Cwmni Da).

Celfyddydau: Y Côr (S4C gan Cwmni Da).