Dyna lle ro’n i, yn eistedd rhwng dau brifardd ac yn chwysu chwartiau. Yr hyn oedd yn fy mhoeni oedd fy mod mewn ychydig funudau yn mynd i orfod codi ar fy nhraed ac annerch cynulleidfa oedd wedi dod ynghyd i ddathlu cyhoeddi llyfr newydd Harri Parri am John Williams Brynsiencyn, Gwn Glân a Beibl Budr, a hynny yng nghapel y pregethwr mawr ei hun sef Capel Horeb, Brynsiencyn.
Roeddwn innau, a’r gynulleidfa, wedi brwydro draw i’r capel drwy wynt a glaw erchyll ac yn teimlo’n ddigon di-hwyl wrth gyrraedd a deud y gwir. Ond roedd camu i mewn i’r capel hardd hwn yn codi calon. Roedd y croeso’n gynnes ac ro’n i’n teimlo ym mêr fy esgyrn fod hon am fod yn noson arbennig. Ac mi roedd hi.
Camais i’r set fawr gyda gweddill y criw oedd yn cymryd rhan. Y Prifardd John Gruffydd Jones oedd yn llywyddu’r noson a’r Prifardd Geraint Lloyd Owen oedd yn rhoi’r diolchiadau ar y diwedd. Mi lwyddais i groesawu pawb yno ar ran y wasg heb faglu’n ormodol. Yr hyn oedd yn gwneud y profiad yn un arbennig i mi oedd fy mod innau wedi cael fy magu ym mhentref Brynsiencyn ac felly roedd y frân arbennig hon wedi cael y cyfle i hedfan yn ôl adra am y noson.
Roedd yn braf wedyn eistedd yn ôl, ymlacio a gwrando ar y danteithion oedd yn cael eu cyflwyno i’r gynulleidfa. Emlyn Richards a Gerallt Lloyd Evans yn siarad yn huawdl ac yn cyflwyno eu safbwyntiau gwahanol am John Williams, y pregethwr carismatig sy’n parhau i ennyn trafodaeth frwd heddiw. Harri Parri yn sôn am y rhesymau tu ôl i sgwennu’r llyfr a’r Parch Trefor Jones yn darllen darnau o’r gyfrol gydag urddas.
Mae’n ddiddorol fod gan John Williams y pŵer o hyd i ddod ag emosiynau pobol i’r wyneb. Roedd profiad y Rhyfel Byd Cyntaf yn brofiad mor erchyll, mae’n naturiol, efallai, fod clywed ei enw hyd yn oed yn parhau i ennyn ymateb emosiynol yn syth.
Mae rhai wedi galw John Williams yn sant, ac eraill wedi ei alw yn Herod oherwydd ei ran yn recriwtio dynion ifanc Cymru i enlistio yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd miloedd eu lladd, wrth gwrs, ac fe fyddai hanes Cymru yn sicr wedi bod yn wahanol petai John Williams wedi gwrthwynebu’r rhyfel yn hytrach nag annog gŵyr ifanc i fod yn rhan o’r brwydro.
A ninnau yn byw can mlynedd ar ôl y Rhyfel Mawr, mae’n anodd deall pam y dilynodd John Williams y llwybr a wnaeth. Efallai fod yn rhaid i rywun fod yn byw yn y cyfnod i geisio deall yn iawn.
Bydd enw John Williams yn parhau i fod yn destun trafod brwd yn ystod y blynyddoedd i ddod, a bydd llawer yn pori yng nghyfrol Harri Parri, Gwn Glân a Beibl Budr, i geisio dod i adnabod y gŵr carismatig, dadleuol hwn yn well.