Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru
Eleni bydd gofod newydd sbon i lenyddiaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd tipi mawr Y Lolfa Lên, sydd wedi ei threfnu gan Lenyddiaeth Cymru, yn llwyfan i raglen o adloniant di-dor gan rai o brif lenorion Cymru.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cydweithio â nifer o weisg, sefydliadau a chymdeithasau er mwyn cyflwyno rhaglen o weithdai ysgrifennu creadigol, darlleniadau, cystadlaethau, trafodaethau, ffilmiau llên a cherddoriaeth.

Ymysg uchafbwyntiau’r wythnos mae sgwrs gydag Ioan Kidd, enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2014 gyda’i nofel Dewis (Gwasg Gomer); Rhyfel Hirddydd Haf yng nghwmni Myrddin ap Dafydd a Twm Morys; Cinio yng nghwmni Cowbois Rhos Botwnnog; a sgwrs Canu Protest Cymraeg.

Bydd Y Lolfa Len hefyd yn atgyfodi Cylch Trafod y Cyfansoddiadau – cyfle arbennig i drafod cyfansoddiadau’r wythnos gan rannu sylwadau a barn am brif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod.

Ymysg y digwyddiadau i blant mae’r Stomp Fach yng ngofal Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog, gweithdai ysgrifennu creadigol Dylanwad gydag Eurig Salisbury a Gwennan Evans, a diwrnod Sgwadiau ‘Sgwennu’r Ifainc gyda Manon Steffan Ros.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae’r Lolfa Lên yn ychwanegiad gwych i Faes yr Eisteddfod eleni.

“Mae’r rhaglen yn llawn dop o ddigwyddiadau amrywiol sy’n adlewyrchu ein diwylliant llenyddol ni heddiw. R

“ydym yn dathlu awduron newydd, yn cofio llenorion diweddar mawr eu dylanwad, ac yn cysylltu’r cyfryngau trwy weld llên mewn cerddoriaeth, celf a ffilm. Boed am adloniant, am sgwrs, am hoe neu am baned, dewch draw i’r Lolfa Lên.”

I weld y rhaglen yn llawn, ewch draw i wefan Llenyddiaeth Cymru a chlicio ar yr adran newyddion: www.llenyddiaethcymru.org neu galwch heibio’r Lolfa Lên ar y maes i gael copi o’r rhaglen.