Gareth F Williams
Dwy nofel wedi ei seilio ar ddigwyddiadau hanesyddol yw enillwyr Gwobrau Tir na n-Og yn Eisteddfod yr Urdd, y Bala eleni.
Gareth F Williams sy’n ennill y categori cynradd gyda’i nofel Cwmwl dros y Cwm a Haf Llewelyn ddaeth i’r brig yn y categori uwchradd gyda Diffodd y Sêr.
Mae Gareth F Williams yn ennill gwobr Gwobr Tir na n-Og am y pumed tro gyda gwaith sy’n seiliedig ar brofiadau ffuglennol bachgen 13 oed o symud i Senghennydd o ogledd Cymru.
“Cefais f’ysbrydoli i ysgrifennu’r nofel hon gan ddigwyddiadau canmlwyddiant trychineb Senghennydd y llynedd. Mae’r hyn a ddigwyddodd yno ar 14 Hydref 1913 yn ddychrynllyd wrth feddwl am faint y trychineb,” meddai Gareth Williams yn y seremoni wobrwyo.
“Collodd 440 o ddynion a bechgyn eu bywydau’r bore ofnadwy hwnnw.
“Fy nod gyda Cwmwl dros y Cwm oedd dod â’u straeon yn fyw i genhedlaeth newydd o blant Cymru, sy’n gwybod fawr ddim am yr hanes, ac adrodd y stori honno trwy lygaid bachgen 13 oed fu’n byw drwy’r cyfan.”
Uwchradd
Haf Llewelyn
Mae Haf Llewelyn sy’n byw yn Llanuwchllyn yn ennill y wobr am y tro cyntaf.
Mae ei gwaith hi wedi ei seilio ar y teulu Evans o fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, a’r bardd enwog Hedd Wyn.
Taith i weld mynwentydd y Rhyfeloedd Byd yn Ypres, gwlad Belg, a sefyll ar lan bedd Hedd Wyn oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y nofel, meddai Haf Llewelyn.
“Teimlad rhyfedd iawn oedd syllu ar y rhesi diddiwedd o gerrig beddi gwyn, ac enwau milwyr o Gymru ar bob un ohonynt; cafodd y profiad effaith fawr arnom wrth i ni sylweddoli pa mor ifanc oedd y bechgyn hyn.
“Ar ôl cyrraedd adref, dechreuais ddarllen pentwr o lythyrau a ysgrifennwyd gan y milwyr at eu teuluoedd, ac fel arall. Ac ar ôl hynny doedd dim troi’n ôl i fod – roedd yr hanes wedi fy rhwydo, ac roedd yn rhaid i mi ddechrau ysgrifennu.”
‘Safon uchel’
Yn ôl Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Roedd safon y llyfrau ar y rhestr fer yn arbennig o uchel eleni, gan adlewyrchu ystod eang y teitlau a gyhoeddwyd.
“Estynnwn ein llongyfarchiadau diffuant i’r ddau awdur a’u cyhoeddwyr – Gwasg Carreg Gwalch a’r Lolfa – ar eu llwyddiant.”