Mae papur newydd lleol y Bala, Y Cyfnod a’i chwaer bapur, Corwen Times, heddiw’n dathlu blwyddyn ers eu prynu a’u hail-sefydlu gan y perchennog a golygydd newydd, Mari Williams.

Daeth y ddau bapur i ben pan ddaeth Gwasg y Sir yn y Bala i ben ym mis Mai’r llynedd. Cafodd y teitlau eu prynu gan Mari Williams, 42, o Lanuwchllyn, gan adfywio’r brandiau.

Dywedodd Mari Williams: “Mewn un agwedd mae’r flwyddyn ddiwethaf yma wedi hedfan, ond ar y llaw arall mae hefyd wedi teimlo fel blwyddyn hiraf fy mywyd i. Mae wedi bod yn waith called iawn ac rydw i wedi dysgu gymaint.

Bu’n rhaid iddi ail-sefydlu sawl nodwedd grai’r papurau, y rhain yn cynnwys dosbarthu, danfon, tanysgrifiadau, cytundebau argraffwyr a gwerthwyr yn ogystal â gwneud y gwaith ysgrifennu, golygu, a dylunio.

Mari Williams yn trafod heriau ailsefydlu’r papur bro:

‘Y gymuned sydd ‘biau’r papur’

Er y gwaith gweinyddu ac ail-sefydlu, dywedodd ei bod yn berchen ar “ddau frand cryf iawn gyda darllenwyr hynod o driw”.

Mae’r darllenwyr wedi bod “yn anhygoel a’r cynigion o help yn ddiddiwedd. Y gymuned sydd biau’r papur – mae’n cael ei werthfawrogi yn fawr,” ychwanegodd Mari Williams.

Gydag Eisteddfod yr Urdd yn lleol i’r cyhoeddiadau, mae’r wythnos yn allweddol i hyrwyddo a hybu gwerthiant y ddau gyhoeddiad.

Dywedodd Mari Williams mai’r bwriad yw “adeiladu ar yr ymgyrch hysbysebwyr naethon ni ei chreu ar gyfer ein rhifyn Eisteddfod arbennig, gan nad ydyn ni yn derbyn unrhyw grantiau a’n bod yn holl ddibynnol ar werthiant a hysbysebu.”

Mae’r Cyfnod a’r Corwen Times yn gwerthu 1,300 copi’r wythnos, gyda gwerthiant mor bell â Thrawsfynydd, Rhuthun a Cherrigydrudion.