Enillydd y gadair, Gwenno Gruffith
Enillwyr Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru oedd Ceredigion, gan guro Sir Gaerfyrddin o ddim ond un pwynt.

Y gystadleuaeth ola’ oedd yr un allweddol – cystadleuaeth y cor -Ceredigion yn gynta’, gydag Uwchaled yn ail a Sir Benfro yn drydydd. Roedd yr enillwyr wedi rhoi “gwefr arbennig” meddai’r beirniad, Eirian Jones.

“Pleser digymysg oedd y profiad,” meddai wedyn, gan ddweud fod safon yr holl gystadlaethau cerddorol wedi bod yn “wych”.

Sir Gaerfyrddin a enillodd y darian am y cystadlaethau gwaith cartref a Cheredigion a enillodd y cystadlaethau llwyfan.

Dyma’r chwech ucha’

1 Ceredigion

2 Sir Gaerfyrddin

3 Eryri

4 Sir Benfro

5 Meirionnydd

6 Ynys Môn

Y Gadair

Enillydd y Gadair yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yw Gwenno Elin Gruffith o Glwb Llangybi yn Eryri. Mae’n byw yn Llwyndyrys.NI

“Dyma lenor y gystadleuaeth … y dweud yn gyforiog o ddisgrifiadau byw,” meddai’r beirniad, Mererid Hopwood.

“Mae beth sy’n digwydd ar y diwedd yn gynnil o effeithiol’ mae’n rhoi rhyw ysgryd i chi a bach o ofn, ond yn llawn cydymdeimlad.”

Fe enillodd dan y ffugenw ‘Buddug’ am stori fer ar y testun ‘Mynydd’ gan sgrifennu o safbwynt plentyn bach unig.

Yn ôl y beirniad, Mererid Hopwood, roedd yna sawl ymgeisydd teilwng ymhlith yr 17 o gystadleuwyr yng nghystadlaethau’r cerddi a’r stori fer yn Gymraeg a Saesneg.

Pedair ymgais o blith y straeon byr a oedd ar y brig mewn cystadleuaeth “safonol” a phob un â dawn ac addewid.

Mae’r Gadair yn cynnwys panel gwydr yn y cefn gyda llun o gromlech arno, a chlustog o frethyn Tregwynt ac roedd yn cael ei rhoi gan gwmni concrid Gamallt ac wedi ei dylunio gan Gavin Brace ac Ifan Davies.

Un o uchafbwyntiau Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru hyd yn hyn yw’r gystadleuaeth Meimio i Gerddoriaeth gydag wyth o siroedd yn cymryd rhan.

Roedd yna sawl sioe liwgar o ddillad a setiau wrth i’r clybiau feimio i ganeuon am anifeiliaid.

Cystadlu clos

Mae Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru’n argoeli i fod yn un agos iawn gyda nifer o siroedd yn gwneud yn dda yng nghystadlaethau’r dydd.

Roedd y gwobrau llwyfan yn cael eu rhannu’n eang gyda siroedd

Y canlyniadau cynta’

Fe ddaeth canlyniadau cynta’ Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru am hanner dydd, gyda Sir Gaerfyrddin, Môn ac Eryri’n rhannu’r llefydd blaen.

Yna fe ddaeth gwobrau cyntaf i Geredigion a Meirionnydd hefyd mewn cystadlu clos yn neuadd ysgol uwchradd Abergwaun.

Rhagor o luniau o dan y canlyniadau …

Llwyfan

Côr

1 Ceredigion

2 Uwchaled, Clwyd

3 Sir Benfro

Unawd Sioe Gerdd

1 Steffan Prys Roberts, Meirionnydd

2 Mared Meredydd Roberts, Ynys Môn

3 Anwen Price, Brycheiniog

Monolog

1 Rhian Davies, Sir Gaerfyrddin

2 Naomi Nicholas, Sir Benfro

3 Catrin Medi Pugh, Ceredigion

Parti Deulais

1 Llysyfran, Sir Benfro

2 Llansannan, Clwyd

3 Llangadog, Sir Gaerfyrddin

Y Ddeuawd

1 Alaw ac Enlliw Lloyd Pugh. Eryri

2 Gerwyn Jones a Robert Lewis

3 Heledd a Ffion Thomas, Sir Gaerfyrddin

Deuawd Ddoniol

1 Endaf a Deian, Sir Gaerfyrddin

2 Ifan Hedd Jones ac Ifan Pyrs, Meirionnydd

3 Morys Iwan a Trystan Jones, Ceredigion

Adroddiad Digri

1 Elin Angharad Rees Ellis, Eryri

2 Teleri Mair Williams, Ynys Môn

3 Cennydd Jones, Ceredigion

Canu Emyn

1 Enlli Lloyd Pugh, Eryri

2 Carwyn Hawkins, Ceredigion

3 Ffion Jones, Sir Gaerfyrddin

Sgets

1 Mydroilyn, Ceredigion

2 Rhuthun, Clwyd

3 Dyffryn Cothi, Sir Gaerfyrddin

Meimio i Gerddoriaeth

1 Llidiartywaen, Maldwyn

2 Pontsian, Ceredigion

3 Penybont Sir Gaerfyrddin

Ensemble Lleisiol

1 Mydroilyn, Ceredigion

2 Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin

3 Cwmtirmynach, Meirionnydd

Parti Llefaru

1 Bro’r Dderi, Ceredigion

2 Y Rhiw, Eryri

3 Bryncrug, Meirionnydd

Llefaru 26 oed neu iau

1 Sioned Tomos Jones, Maldwyn

2 Dewi Meirion Pugh, Meirionnydd

3 Teleri Mair Williams, Ynys Môn

Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant

1 Alaw ac Enlli, Eryri

2 Gwenan, Siwan, Meinir a Ffion, Sir Gaerfyrddin

3 Mirain, Elen, Angharad a Heledd, Meirionnydd

Stori a Sain

1 Mared Tomos ac Angharad Rees, Sir Gaerfyrddin

2 Dewi Jenkins a Geraint Jenkins, Ceredigion

3 Non Thorne a Richard Simmonds, Sir Benfro

Pop

1 Heledd Thomas, Llangadog, Sir Gaerfyrddin

2 Troedyraur, Ceredigion

3 Hermon, Sir Benfro

Unawd 21 neu iau

1 Sion Eilyr Roberts, Clwyd

2 Enlli Lloyd Pugh, Eryri

3 Ifan Hughes, Ynys Môn

Llefaru 16 neu iau

1 Elen Williams, Clwyd

2 Gwennan Campbell, Sir Gaerfyrddin

3 Esyllt Thomas, Sir Benfro

Unawd 26 neu iau

1 Jessica Robinson, Sir Benfro

2 Heledd Bessant, Maldwyn

3 Mared Meredydd Roberts, Ynys Môn

Unawd Alaw Werin

1 Mared Emlyn Parry, Meirionnydd

2 Teleri Haf Thomas, Brycheiniog

3 Enlli Lloyd Pugh, Eryri

Unawd dan 16

1 Teleri Haf Thomas, Brycheiniog

2 Arwen Evans, Meirionnydd

3 Lois Glain, Ynys Môn

Llefaru dan 21

1 Lois Mererid, Ynys Môn

2 Luned Mair, Ceredigion

3 Sioned Erin, Eryri

Unawd Offerynnol

1 Nest Jenkins, Ceredigion

2 Ffion Williams, Sir Benfro

3 Emma Morgan, Maldwyn

Gwaith Cartref

Stori Fer

1 Gwenno Griffith, Eryri

2 Elain Llwyd Jones, Meirionnydd

3 Arwel Evans, Sir Benfro

Cerdd

1 Rhys Owain Edwards, Ynys Môn

2 Ffion Haf Williams, Sir Benfro

3 Ffion Jones, Maldwyn

Limrig

1 Gwennan Davies, Ceredigion

2 Geraint Jones, Maldwyn

3 Glesni Mair Owen, Ynys Môn

Blog – 21 neu iau

1 Anna Bowen, Sir Gaerfyrddin

2 Luned Mair, Ceredigion

3 Angharad Medi Tudor Davies, Meirionnydd

Poster – 16 neu iau

1 Joshua Johnson, Sir Gaerfyrddin

2 Bedwyr Roberts, Clwyd

3 Nia Lewis, Sir Benfro

Brawddeg

1 Jamie Owen, Maldwyn

2 Siwan Jones, Clwyd

3 Ifan James, Ceredigion

Cywaith Clwb

1 Llangadog, Sir Gaerfyrddin

2 Pontsian, Ceredigion

3 Godre’r Eifl, Eryri

Celf

1 Mari Hughes, Eryri

2 Angharad Mair Tudor Davies, Meirionnydd

3 Peter Gillibrand, Sir Gaerfyrddin

Sgrifennu Sgets

1 Nia Medi Williams, Ynys Môn

2 Elinor Williams, Sir Benfro

3 Meleri Morgan, Ceredigion

Unawd Sioe Gerdd


Steffan Rhys Roberts, Meirionnydd, yn ennill yr Unawd Sioe Gerdd allan o ddeg

Lluniau Sgetsys


Sgets Ceredigion - Clwb Mydroilyn


Sgets Ynys Mon - Clwb Penmynydd


Sgets Sir Gaerfyrddin - Clwb Dyffryn Cothi

Llenor y Gadair


Gwenno Elin Gruffydd


Lluniau Meimio


Enillwyr y meimio - Maldwyn a Chlwb Llidiart


Pontsian, Ceredigion - ail ar y meimio


Meimio Sir Gaerfyrddin - Clwb Penybont - trydydd

Heledd Thomas, Sir Gaerfyrddin - enillydd y gan bop

Nest Jenkins oedd enillydd yr Unawd Offerynnol

Teleri Haf Thomas Brycheiniog yn ennill yr Unawd 16 ac iau