Isias gyda'i grys-t 'Joio mas draw' a gafodd yn anrheg
Mae un siaradwr Cymraeg yn marw bob wythnos yn y Wladfa, ac mae hynny’n gwneud cadw’r iaith yn fyw yn anodd iawn, yn ôl enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn sydd wedi ei fagu yn Nhrevelin, Patagonia.
“Mae’n sefyllfa eitha’ trist yno,” meddai Isaias Grandis, sy’n dod o dras Eidalaidd, Sbaenaidd ac Indiaidd brodorol De America.
“Dw i’n gweithio’n llawn amser i geisio adfer ac achub y Gymraeg yn yr Andes. Dw i’n teimlo mai gwobr y Wladfa ydi hon, nid fy ngwobr i.”