Gareth Hughes (chwith) gyda Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod
Mae hi’n oes aur ar y delyn yng Nghymru, meddai enillydd Tlws y Cerddor, ac mae o wrth ei fodd yn ceisio cyfansoddi darnau cymhleth ar ei chyfer.
Fe ddaeth Gareth Hughes o Gaerdydd i’r brig ddoe am gyfansoddi sonata i’r delyn a’r ffliwt.
“Mae’r delyn yn offeryn gwych, ac mae’n rhoi cyfle i gyfansoddi darnau technegol sy’n cynnwys llawer o rediadau a graddfeydd,” meddai.
“Mae gyda fi ddiddordeb mawr yn yr offeryn… mae’n mynd trwy oes aur ar hyn o bryd.”