Ian Jones, Prif Weithredwr S4C
Fe fydd S4C yn lawnsio gwasanaeth newydd ym mis Medi, wedi ei anelu at rieni di-Gymraeg a dysgwyr sy’n dymuno gwylio rhaglenni Cyw gyda’u plant bach.

“Yr enw ar y gwasanaeth fydd Ti Fi a Cyw,” meddai Ian Jones o’r Maes heddiw, “ac mae’n bosib y bydd y gwasanaeth hwn yn eu hysgogi i fynd ati i ddysgu Cymraeg yn fwy ffurfiol…”

Ar y teledu, fe bydd rhaglenni Ti Fi a Cyw yn cael eu darlledu rhwng 7 ac 8 bob bore; yna, ar ail sgrin, sef ar iPhone, ar dablet, cyfrifiadur neu unrhyw ddyfais arall, fe fydd yna ffrwd trydar byw yn cynnwys cyfieithiadau, geirfa ac awgrymiadau.