Cefin Roberts, arweinydd Côr Glanaethwy
Fe dynnodd Côr Glanaethwy yn ôl o gystadlu yn y brifwyl eleni oherwydd prinder sopranos.

Roedd côr yr ysgol berfformio i fod yn un o bump côr ar y llwyfan ar ddydd Sadwrn cynta’r Eisteddfod ym Mro Morgannwg.

“Dim ond dwy soprano oedd yn medru dwad,” meddai Cefin Roberts, yr arweinydd sydd hefyd yn Drefnydd Cerddoriaeth, Gorsedd y Beirdd.

“Er y baswn i wedi bod yn fodlon cyfaddawdu rhywfaint er mwyn cefnogi’r eisteddfod, doedd hi ddim yn bosib yn y diwedd.”