Eigra'n cael ei choroni yn 2006
Dydi’r Prifardd a’r Prif Lenor Eigra Lewis Roberts ddim wedi cystadlu am y Gadair Genedlaethol eleni, meddai – er mai awdl a ddaeth yn ail yn y gorffennol ydi un o brif gerddi ei chyfrol newydd.

Mae’r gyfrol Parlwr Bach wedi dod o’r wasg ers tri mis, ac mae’r awdl i Kate Roberts a ddaeth yn ail yn y brifwyl, yn un sydd wedi ennyn ymateb ffafriol.

“Dydw i ddim wedi cystadlu eleni,” meddai, a hithau eisoes wedi ennill y Fedal Ryddiaith tra’r oedd hi yn y coleg, ac yna’r Goron yn Abertawe yn 2006.