Cynog Dafis
Mae angen i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith ym mhob sefyllfa ac ar bob adeg posib. Dyna neges Cynog Dafis heddiw, wrth iddo draddodi darlith flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru.
“Mae’n bwysig i ni ymddihatru o’n angst hanesyddol, snapo mâs ohono fe a mabwysiadu geirfa newydd.
“Mae angen siarad am dwf a chynnydd a datblygiad ac ymdaith yn lle gwarchod, amddiffyn, cadw, achub a diogelu. Creu sbeiral cadarnhaol yw’r nod.”