Mae un o feirniaid cystadleuaeth y Goron eleni yn galw am fwy o “amrywiaeth” o fewn panelau beirniaid prif gystadlaethau’r brifwyl.
Mae’r Prifardd Cyril Jones yn dweud fod ei ddewis ef, y Prifardd Cen Williams a’r Prifardd Penri Roberts ar gyfer tafoli’r bryddest ym Mro Morgannwg, yn “rhoi’r argraff anghywir” i ddarpar gystadleuwyr.
“Wy’n benwyn, ac mae Penri a Cen wedi colli eu gwallt!” meddai Cyril Jones, “ac mae hynny’n bwynt wy wedi’i wneud yn fy meirniadaeth ysgrifenedig yn y Cyfansoddiadau.”