Y Fedal - neb yn deilwng
Roedd diffyg teilyngdod yn seremoni’r Fedal Ryddiaith ddoe yn dwyn hiraeth ar ddwy chwaer yn y gynulleidfa. Roedd Janet Davies a Glenda Jones yn rhoi’r fedal er cof am eu rhieni.

“Roedd yna edrych ymlaen gyda chymysgedd o hiraeth a chyffro,” meddai Janet, a arferai ganu deuawdau gyda’i chwaer am flynyddoedd.  

“Roedd mam a dad yn stiwardio wrth y glwyd bob blwyddyn… ac wrth gwrs, fe wnaethon nhw gymaint i’n hannog ni. Ond, mae’n bwysig cynnal safon.”