Fe fydd y frwydr tros ‘ffracio’ ger Maes yr Eisteddfod yn allweddol o ran dyfodol yr amgylchedd yng Nghymru, meddai ymgyrchwraig wyrdd.
Mae angen cyfreithiau cynllunio newydd i reoli datblygiadau fel y cynllun i gloddio am nwy siâl ar Stad Ddiwydiannol Llandŵ, meddai Catrin O’Neill, un o drefnwyr y Maes Gwyrdd yn y Brifwyl.
“Os ydyn nhw’n gallu mynd trwodd efo’r ffracio yma, fydd dim byd i’w stopio nhw,” meddai ar ôl i gwmni ennill apêl i gloddio – yn groes i farn Cyngor Sir Bro Morgannwg.
‘Cannoedd o flynyddoedd’
Mae nifer o achosion o gloddio arbrofol ar gyfer ffracio eisoes wedi cael eu caniatáu yng Nghymru, ym Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr, meddai Catrin O’Neill, a hynny heb i bobol sylweddoli.
“Mae’r rhain wedi digwydd heb i bobol leol wybod,” meddai’r gantores werin a oedd yn un o sylfaenwyr y mudiad ‘Y Fro’n dweud Na’. “Mae un ohonyn nhw ar waelod gerddi pobol.”
Dadl y gwrthwynebwyr yw bod ffracio’n niweidiol i’r amgylchedd ac i iechyd am fod cymysgedd o gemegau’n cael eu pwmpio i mewn i greigiau er mwyn rhyddhau nwy.
Mae hi’n dweud y gallai effaith y cemegau sy’n cynnwys defnyddiau fel arsenig a syanid barhau am gannoedd o flynyddoedd.
Y dadlau
“Mae’r cemegau’n cael effaith ar y tabl dŵr ac yn gwneud drwg i fabis ac anifeiliaid, a thir yn cael ei lygru’n hollol,” meddai Catrin O’Neill. “Mae’r creigiau ym Mro Morgannwg yn llawn aquifers a ffynhonnau.”
Mae’r cwmni, Coastal Oil and Gas o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi pwysleisio na fydd y gwaith archwilio yn cynnwys y broses ffracio ac fe fydd rhaid iddyn nhw wneud cais cynllunio arall cyn gallu tyllu am y nwy ei hun.
Mae cefnogwyr ffracio hefyd yn dadlau bod y peryglon yn cael eu gorliwio a bod y broses yn cynnig ffynonellau newydd o nwy rhad ar adeg pan fo tanwydd yn prinhau.
‘Angen cyfreithiau newydd’
Fe alwodd Catrin O’Neill am newid yn y cyfreithiau cynllunio, gan ddadlau bod costau wedi atal Cyngor y Fro rhag ymladd yr achos.
“Mae’r cyfreithiau sy’n ymwneud â ffracio yr un peth â’r cyfreithiau sy’n ymwneud ag adeiladu tai,” meddai. “Mae angen cyfreithiau cynllunio arbennig.”