Isaias Grandis
Fe gyhoeddwyd neithiwr mai Isaias Grandis o Trevelin, Chubut yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Roedd pedwar ar y rhestr fer eleni, Ashok Ahir o Gaerdydd, Rhian Dickenson o’r Fenni, Isaías Grandis o Trevelin, a Mark Morgan o Bontyclun.
Penderfynodd y beirniaid mai Isaías Grandis ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth “arbennig o agos” eleni.
Treuliodd Isaías ei fywyd cynnar yng Nghórdoba cyn ymgartrefu gyda’i deulu yn Nhrevelin, Godre’r Andes.
Nid yw’n dod o dras Gymreig ond ar ôl symud i Drevelin, magodd ddiddordeb yn yr iaith ‘estron’ a glywai’n cael ei siarad gan ei gymdogion. Dechreuodd fynychu dosbarthiadau Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes yn 15 oed, a chafodd ysgoloriaeth i fynd i Gymru yn 2006.
Ar ôl mynychu cwrs iaith dwys ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2009 dychwelodd i Batagonia a chymryd swydd fel tiwtor Cymraeg lleol. Mae’n ymdrechu i godi delwedd y Gymraeg o fewn y gymuned drwy ddenu myfyrwyr, hen ac ifanc, i’r Ysgol Gymraeg.
Ei freuddwyd pennaf yw adeiladu Ysgol Ddwyieithog (Cymraeg a Sbaeneg) yn Nhrevelin fel Ysgol yr Hendre yn Nhrelew.