Yr Archdderwydd ar y Maes
Bu’n rhaid i’r Archdderwydd T James Jones brynu copi o lyfr rhywiol mwya’ poblogaidd yr oes – a hynny ar ran ei wraig.

Roedd Manon Rhys yn eistedd yn y car, wrth i Jim Parc Nest brynu Fifty Shades of Gray – ar ôl iddi hi gael gwahoddiad i siarad am y gyfrol ar y radio.

Yr Eisteddfod sydd ar fai, enillydd y Fedal Ryddiaith y llynedd yw beirniad y gystadleuaeth gynta’ erioed ar gyfer stori erotig – mae’r canlyniad yn dod yfory.

Meddai Manon Rhys

“Yr unig reswm ro’n i’n prynu’r llyfr oedd mod i’n gwybod fy mod yn rhaid i mi draethu i’r radio amdani, ac ro’n i’n trafod y feirniadaeth ar y stori erotig,” meddai.

“Ar ôl i mi sgwennu fy meirniadaeth nôl ym mis Mai, mae Fifty Shades of Gray wedi dod i’r amlwg ac mae miliynau o gopiau wedi’u gwerthu a milynau o ddarllenwyr i nofel alla’ i ddim mynd trwyddi, achos mae hi’n wael. Roedd yn rhaid i mi fynd i brynu copi, ond doeddwn i ddim eisiau mynd – felly fe heles i fy ngŵr i mewn.

“Felly os gwelwyd yr Archdderwydd yn mynd mewn i siop lyfrau yn Hwlffordd i brynu Fifty Shades of Gray – peidiwch â meddwl ymhellach – ar gyfer ei wraig roedd e wedi’i phrynu.”

Mae’r rhestr testunau’n pwysleisio bod rhaid i’r stori fod yn un chwaethus.

“Mae fy meirniadaeth yn y Cyfansoddiadau yn mynd i ddweud – fel gyda phob stori fer, mae angen safon, mae eisiau sylfaen a phatrwm i stori neu nofel, erotig neu beidio,” meddai Manon Rhys.